top of page
Streetscene Screenshot.jpg

Datblygiad preswyl ar gyfer 28 annedd ar dir yn Bryn Morfa, Bodelwyddan

Mae Cadnant Planning Cyf wedi eu comisiynu gan Maxi Developments NW Ltd i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a datblygiad arfaethedig ar dir yn Bryn Morfa, Bodelwyddan, Sir Ddinbych, LL18 5TT.

 

Rhoddir rhybudd bod Maxi Developments NW Ltd yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer dymchwel un annedd a chodi 28 annedd gan gynnwys creu mynediad newydd i gerbydau, ffordd fynediad mewnol a gwaith cysylltiedig.

 

Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwigio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.

Crynodeb o'r cais

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â chais cynllunio llawn ar gyfer dymchwel un annedd a chodi datblygiad preswyl o 28 annedd.

 

Byddai'r datblygiad arfaethedig yn darparu’r cymysgedd canlynol o dai:

• 1 x tÅ· pedair ystafell wely, chwe pherson;

• 19 x tÅ· tair ystafell wely, pum person; a

• 8 x tÅ· dwy ystafell wely, pedwar person.

 

O'r 28 annedd a gynigiwyd, byddai tri annedd yn cael eu darparu ar y safle fel tai fforddiadwy ar gyfer anghenion tai lleol, a byddent yn aros felly am byth. Byddai'r gweddill yn dai marchnad agored.

 

Byddai'r fynedfa arfaethedig i gerbydau i'r datblygiad wedi'i leoli oddi ar Bryn Morfa. Byddai'r annedd bresennol o'r enw 22 Bryn Morfa yn cael ei dymchwel i ddarparu'r fynedfa hon.

 

Cynigir llwybr troed i gerddwyr hefyd ar y safle i ddarparu mynediad i'r rhandiroedd a'r cyfleusterau cymunedol i'r de-ddwyrain a'r dwyrain o'r safle.

 

Cynigir cynlluniau tirlunio i gryfhau a gwella'r llystyfiant presennol ar hyd ffiniau safle'r cais, ynghyd â phlannu tirlunio newydd yn fewnol.

 

Yn ogystal, byddai'r cynllun arfaethedig yn cynnwys darparu pyllau gwanhau fel rhan o'r draeniad dŵr wyneb i wasanaethu'r datblygiad.

 

Byddai effaith gronnus y pyllau tirlunio a gwanhau arfaethedig yn darparu buddiannau a gwelliant bioamrywiaeth ar y safle.

 

Mae safle'r cais y tu allan ond yn ffinio'n uniongyrchol â ffin datblygu Bodelwyddan. Byddai'r bwriad wedi'i leoli mewn lleoliad cynaliadwy a byddai'n darparu tai i helpu i ddiwallu anghenion tai yr ardal leol.

bottom of page