top of page
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn - Black Circle

Adeilad addysgol newydd a gwaith cysylltiedig ar gampws Coleg Meirion Dwyfor, Dolgellau

Mae Cadnant Planning Ltd wedi cael eu comisiynu gan Grŵp Llandrillo-Menai i gynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio am gais Cynllunio (PAC) mewn perthynas â'r datblygiad arfaethedig yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Dolgellau.


Rydym yn rhoi rhybudd bod Grŵp Llandrillo-Menai yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer codi adeilad addysgol newydd, gosod trac mynediad newydd, codi strwythurau PV o fewn maes parcio presennol ynghyd â gwaith cysylltiedig gan gynnwys tirlunio a draenio.


Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygiedig) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.

YNGLYN A'R CAIS

Mae'r cais hwn yn ymwneud â chynnig gan Grŵp Llandrillo-Menai i wella eu cyfleusterau addysgol ar gampws Coleg Meirion Dwyfor yn Nolgellau. 

​

Coleg Meirion Dwyfor yw’r unig ddarparwr Addysg Bellach yn rhanbarth Meirionnydd, gan ddarparu ar gyfer ardal ddaearyddol eang ond tenau ei phoblogaeth fel rhan o drefniadau addysg drydyddol ym Meirionnydd. Mae gan y coleg bum ysgol fwydo heb chweched dosbarth ac mae hefyd yn denu dysgwyr o bellach i ffwrdd o ogledd-orllewin Gwynedd i ymgymryd â darpariaeth arbenigol nad yw ar gael ar gampws Pwllheli. 

 

Byddai'r adeilad addysgol newydd arfaethedig yn rhan o gynllun ailddatblygu graddol ar gyfer campws Dolgellau, i ddarparu canolfan Lefel-A newydd yn darparu mannau addysgu modern, amlbwrpas. Ar hyn o bryd, mae llawer o'r ddarpariaeth bresennol wedi'i lleoli o fewn estyniad 1889 i'r ysgoldy a oedd yn bodoli eisoes. Mae’r cynnig yn cynrychioli buddsoddiad o £10M i greu cyfleuster addysg Lefel-A deniadol, sy’n addas i bwrpas.
 

Dogfennau drafft cais cynllunio 

DWEUD EICH DWEUD

Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno sylwadau ynghylch â’r datblygiad arfaethedig wneud hynny erbyn 1 Mehefin 2025. Byddem yn eich annog i’w hanfon trwy e-bost i PAC@cadnantplanning.co.uk neu fel arall gallwch eu hafnon i: Cadnant Planning, 20 TÅ· Connaught, Parc Busnes Riverside, Ffordd Benarth, Conwy, LL32 8UB

Diolch yn fawr!

9001 CMYK Gwyn.jpg
RTPI-CTPs-Logo-Screen.jpg

© 2018 Cadnant Planning. All Rights Reserved.

 

Cadnant Planning Ltd Cwmni Cofrestredig yng Nghymu a Lloegr Rhif. 07955299
Rhif TAW Cofrestredig.13274751

Hysbysiad Preifatrwydd Cwstmeriaid - cliciwch yma

© 2023 Cadnant Planning

bottom of page