top of page

datblygiad tai fforddiadwy ar dir ger llain rallt, crown street, gwalchmai

Mae Cadnant Planning Cyf wedi eu comisiynu gan AMP Construction and Groundworks Limited i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a datblygiad arfaethedig ar dir ger Llain Rallt, Crown Street, Gwalchmai.

 

Rhoddir rhybudd bod AMP Construction and Groundworks Limited yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer datblygiad preswyl i godi 33 o dai fforddiadwy, newidiadau i’r mynedfa bresennol, creu ffordd fynediad mewnol a gwaith cysylltiedig.

 

Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwigio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.

crynodeb o'r cais

Mae'r cais yn ymwneud â datblygiad preswyl o 33 o dai fforddiadwy a fyddai'n cael ei ddatblygu gan AMP Construction and Groundworks Ltd ar ran ac yn cael ei reoli wedyn gan Gymdeithas Tai Gogledd Cymru.

 

Byddai'r cais yn cynnwys y cymysgedd tai canlynol; 12 fflat un ystafell wely, 10 tÅ· pâr dwy ystafell wely, 8 tÅ· pâr tair ystafell wely a 3 annedd pedair ystafell wely ar wahân.

 

Byddai'r anheddau yn darparu cymysgedd o dai cymdeithasol a rhent canolraddol, gyda'r union gymysgedd i'w drafod a'i gytuno gyda'r Gwasanaethau Tai yn ystod cyfnod penderfynu’r cais. Bydd gan pob uned ardaloedd amwynder preifat a pharcio. Byddai gosodiad y safle hefyd yn cynnwys mannau parcio i ymwelwyr o fewn y safle.

 

Byddai mynediad i gerbydau a cherddwyr i'r safle oddi ar Crown Street. Byddai llwybr cerddwyr yn cael ei ddarparu ar y ddwy ochr i'r ffordd fynediad i'r safle, a byddai mynedfa ychwanegol i gerddwyr yn cael ei ddarparu i Crown Street yn rhan ogleddol y safle.

Dogfennau cais cynllunio drafft

bottom of page