top of page

Datblygiad preswyl ar cyn safle cwrt chwaraeon, Oak Drive, Bae Colwyn

Mae Cadnant Planning Cyf wedi eu comisiynu gan Northfield Property Development Ltd i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a datblygiad arfaethedig ar Cyn safle’r cwrt chwaraeon, Oak Drive, Bae Colwyn.

 

Rhoddir rhybudd bod Northfield Property Development Ltd yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer datblygiad preswyl i gynnwys 11 o dai ynghyd â chreu mynedfa gerbydau newydd, ffordd fewnol, tirlunio a gwaith cysylltiedig (cynllun diwygiedig) (ailgyflwyniad).

 

Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwigio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.

Crynodeb o'r cais

Mae'r cynnig yn ymwneud â chais llawn am ddatblygiad o 11 uned breswyl wedi ei ddiweddaru (ailgyflwyniad) ar cyn safle cwrt chwaraeon, Oak Drive, Bae Colwyn. Mae'r Ymgynghoriad Cyn-Cynllunio hwn yn ymwneud â darparu 11 o unedau preswyl ar y safle yn unig; bydd cais cynllunio ar wahan am dair uned arall (lleiniau 1 – 3) yn cael ei chyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ddiweddarach. Mae'r cynlluniau a ddarparwyd yn dangos lleoliad arfaethedig y tair uned ychwanegol yma ar y safle er gwybodaeth; maent i'w gweld wedi'u croeslinellu gan nad ydynt yn rhan o'r cynllun presennol ar gyfer 11 o dai.

 

Mae’r newid arfaethedig i osodiad yr unedau ar y safle wedi ei ddatblygu trwy drafodaethau manwl gyda swyddogion cynllunio, swyddog cadwraeth a swyddog coed y Cyngor.

 

Yn flaenorol, defnyddiwyd y safle fel cyrtiau tenis gan Ysgol Rydal Penrhos, cyn i’r gofyn amdanynt ddod i ben a chafodd y safle ei gwerthu fel rhan o ailddatblygiad cyfleusterau yn Ysgol Rydal Penrhos i ddarparu addysg yr unfed ganrif ar hugain i'w disgyblion. Mae Rydal Penrhos yn ysgol breifat ac felly dim ond disgyblion Rydal Penrhos oedd yn cael defnyddio o’r cyrtiau tenis ac nid oedd yn gyfleuster cymunedol.

 

Byddai'r cynnig yn darparu ystod eang  o dai gan gynnwys naw tÅ· pedwar llofft a dau dÅ· tri llofft. Byddai’r tai tri lloft yn unedau fforddiadwy, gyda un yn uned ganolradd ac un fel uned rhent cymdeithasol.

 

Byddai’r bwriad yn cynnwys mynediad newydd i gerbydau oddi ar Oak Drive gyda ffordd fynediad mewnol preifat newydd. Mae darn bach o goetir ar hyd ffin y safle â Walshaw Avenue ac er y bwriedir tynnu rhai coed oherwydd eu cyflwr gwael ac er mwyn hwyluso'r datblygiad, gwnaed pob ymdrech i gadw'r coed presennol. Mae cynllun tirlunio yn ymgorffori plannu coed ychwanegol i gynnwys gwella bioamrywiaeth.

Dogfennau cais cynllunio drafft

DWEUD EICH DWEUD

Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno sylwadau ynghylch â’r datblygiad arfaethedig wneud hynny erbyn 20 Hydref 2023.  Byddem yn eich annog i’w hanfon trwy e-bost i PAC@cadnantplanning.co.uk neu fel arall gallwch eu hafnon i: Cadnant Planning, 20 TÅ· Connaught, Parc Busnes Riverside, Ffordd Benarth, Conwy, LL32 8UB.

Diolch yn fawr!

bottom of page