top of page

Estyniad I safle carafannau teithiol a gwersylla yn Safle Carafannau a gwersylla Tai Hirion 

Mae Cadnant Planning Cyf wedi eu comisiynu gan Alun Jones, Tai Hirion Caravan and Camping i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a datblygiad arfaethedig ar safle Carafannau a gwersylla Tai Hirion, Rhoscefnhir, Pentraeth, LL75 8YY.

​

Rhoddir rhybudd bod Alun Jones, Tai Hirion Caravan and Camping yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer newid defnydd tir i greu estyniad i safle carafannau teithiol a gwersylla presennol i greu lleiniau ar gyfer lleoli 23 o unedau carafannau teithiol ychwanegol a lleoli 3 caban gwyliau ynghyd â gwaith cysylltiedig a thirlunio.

​

Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwigio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.
 

Crynodeb o'r cais

Mae Tai Hirion yn faes carafanau teithiol a gwersylla presennol yn Rhoscefnhir, ag yn darparu 32 o lleiniau carafanau teithiol ac 20 o lleiniau gwersylla.


Mae'r cais hwn yn ymwneud â newid defnydd tir i greu estyniad i'r safle carafanau teithiol a gwersylla presennol. Bydd yr estyniad yn darparu 23 o unedau carafanau teithiol ychwanegol a 3 caban ar y safle.


Mae'r bwriad i ehangu wedi codi oherwydd llwyddiant y parc gwyliau a galw cynyddol am lleiniau carafanau teithiol yn yr ardal.

bottom of page