top of page

Datblygiad preswyl yn Fferm Tan y Graig, Pentraeth i alluogi datblygiad ar gyfer gwaith adfer yn Aberbraint, Llanfairpwll

Mae Cadnant Planning Cyf wedi eu comisiynu gan Grŵp Amos Cymru Cyf i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a datblygiad arfaethedig ar dir Fferm Tan y Graig, Pentraeth, Ynys Môn, LL75 8UL.

 

Rhoddir rhybudd bod Grŵp Amos Cymru Cyf yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer datblygiad galluogi, yn gysylltiedig â gwaith adfer i Aberbraint, Llanfairpwll trwy godi 25 o dai, creu ffordd fynediad fewnol a llwybr i gerddwyr, ynghyd â gwaith tirlunio a gwaith cysylltiedig yn Fferm Tan y Graig, Pentraeth.

 

Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwigio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.

YNGLYN A'R CAIS

Mae'r datblygiad arfaethedig yn ymwneud â chodi 25 o anheddau, yn cynnwys 10 annedd marchnad leol a 15 annedd marchnad agored.

​

Cyflwynir y cais fel datblygiad galluogi sy’n gysylltiedig ag ariannu’r diffyg cadwraeth ar gyfer gwaith adfer yn Aberbraint, Llanfairpwll sy’n adeilad rhestredig Gradd II* sydd hefyd ym mherchnogaeth Grŵp Amos.

DWEUD EICH DWEUD

Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno sylwadau ynghylch â’r datblygiad arfaethedig wneud hynny erbyn 26 Mai 2024.  Byddem yn eich annog i’w hanfon trwy e-bost i PAC@cadnantplanning.co.uk neu fel arall gallwch eu hafnon i: Cadnant Planning, 20 TÅ· Connaught, Parc Busnes Riverside, Ffordd Benarth, Conwy, LL32 8UB.

Diolch yn fawr!

bottom of page