top of page
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn - Black Circle

CYNLLUN TAI FFORDDIADWY AR DIR GER stad gorseddfa,

criccieth 

Crynodeb o'r cais

Bydd y cynnig yn ceisio caniatâd cynllunio llawn ar gyfer codi 27 o anheddau, ynghyd â darparu mynediad newydd, ffordd fynediad fewnol, ardaloedd wedi’u tirlunio, darpariaethau draenio cysylltiedig a gwaith cysylltiedig ar dir ger Stad Gorseddfa, Cricieth.

Mae’r datblygiad arfaethedig yn darparu cymysgedd da o dai, yn cynnwys y canlynol:

  • 4 byngalo dwy ystafell wely

  • 1 byngalo pedair ystafell wely

  • 10 annedd dwy ystafell wely

  • 7 annedd tair ystafell wely

  • 1 annedd pedair ystafell wely

  • 4 fflat un ystafell wely

 

Mae’r cynnig yn ceisio darparu pob un o’r 27 annedd fel anheddau fforddiadwy, sy’n uwch na gofyniad y polisi o 30%. Bydd yr unedau’n cael eu darparu a’u rheoli gan Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) lleol, sef Adra (Tai) Cyf.

 

Dangosir dyluniad pob math o dŷ yn y cynlluniau perthnasol. O ran ymddangosiad, bydd yr eiddo’n cael eu gorffen mewn cymysgedd o ddeunyddiau er mwyn darparu ar gyfer arddulliau ac ymddangosiadau gwahanol ar y safle. Mae’r deunyddiau arfaethedig yn cynnwys:

  • To: llechen naturiol neu deils

  • Waliau: rendr / cladin carreg

 

Mae’r cynllun arfaethedig yn cynnwys darpariaeth gysylltiedig o fannau agored anffurfiol i ochr y safle, yn ogystal ag ardal gymysg i dde’r safle ar gyfer man agored cyhoeddus anffurfiol ac i hwyluso strategaeth ddraenio gynaliadwy ar gyfer y datblygiad. Bydd coridor ecolegol yn cael ei ddarparu ar ran dde-ddwyreiniol / ddwyreiniol y safle er mwyn gwella bioamrywiaeth.

 

Mae’r cynnig yn ceisio darparu mynediad i gerbydau yn uniongyrchol oddi ar Stad Gorseddfa drwy ymestyn y ffordd bengaead bresennol tuag at y safle ac yna darparu ffordd fynediad fewnol i’r anheddau. Bydd y cynnig hefyd yn darparu mynediad diogel i gerddwyr o fewn y safle i gysylltu â’r ystâd dai bresennol i’r gorllewin.

Dogfennau cais cynllunio drafft

DWEUD EICH DWEUD

Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno sylwadau ynghylch â’r datblygiad arfaethedig wneud hynny erbyn 9fed o Orffennaf 2026. Byddem yn eich annog i’w hanfon trwy e-bost i PAC@cadnantplanning.co.uk neu fel arall gallwch eu hafnon i: Cadnant Planning, 20 Tŷ Connaught, Parc Busnes Riverside, Ffordd Benarth, Conwy, LL32 8UB

Logo for Website.png
RTPI-CTPs-Logo-Screen.jpg

© 2018 Cadnant Planning. All Rights Reserved.

 

Cadnant Planning Ltd Cwmni Cofrestredig yng Nghymu a Lloegr Rhif. 07955299
Rhif TAW Cofrestredig.13274751

Hysbysiad Preifatrwydd Cwstmeriaid - cliciwch yma

© 2023 Cadnant Planning

bottom of page