top of page
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn - Black Circle

​CYNLLUN TAI FFORDDIADWY AR DIR GER Dol Eithin, Llanfihangel yn Nhywyn

Mae Cadnant Planning Cyf wedi eu comisiynu gan Cymdeithas Tai Gogledd Cymru a DU Construction Ltd i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a datblygiad arfaethedig ar ar dir ger Dol Eithin, Llanfihangel yn Nhywyn.

 

Rhoddir rhybudd bod Cymdeithas Tai Gogledd Cymru a DU Construction Ltd yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer codi 26 o anheddau fforddiadwy, creu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr, dargyfeirio Hawl Tramwy Cyhoeddus, ynghyd â pharcio, tirlunio a draenio cysylltiedig.

 

Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwigio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.

Crynodeb o'r cais

Cynigion ar gyfer codi 26 o dai fforddiadwy ar dir ger Dol Eithin. Bydd y datblygiad yn cynnwys adeiladu mynedfa gerbydau newydd a mynediad cysylltiedig, a dargyfeirio Hawl Tramwy Cyhoeddus, gwaith parcio a thirlunio.

 

Bydd y datblygiad yn cynnwys darpariaeth ar gyfer amrywiaeth o fathau o dai sydd ar gael ar rhent cymdeithasol, gan gynnwys y canlynol:

•             Deuddeg o fflatiau un ystafell wely dau berson;

•             Byngalos dwy ystafell wely dau x tri pherson;

•             Chwe thŷ pedwar person, dwy ystafell wely;

•             Pum tŷ pum person, tŷ tair ystafell wely;

•             Un tŷ saith person, tŷ pedair ystafell wely.

 

Mae'r cynigion wedi'u cynllunio'n ofalus i greu estyniad naturiol i'r pentref presennol, gyda mannau agored anffurfiol newydd wedi'u tirlunio, plannu coed, gwelliannau bioamrywiaeth a nodweddion draenio cynaliadwy wedi'u hintegreiddio ledled y safle. Mae'r gwaith cysylltiedig yn cynnwys creu mynedfa newydd i gerbydau o Lôn Bach i'r gogledd o'r safle, ffyrdd mewnol a throedffyrdd, parcio, tirlunio. Mae'r datblygiad yn cynnwys dargyfeirio'r Hawl Tramwy Cyhoeddus bresennol o Lôn Bach, i Dôl Ethin a fydd yn cael ei gadw a'i wella.

DWEUD EICH DWEUD

Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno sylwadau ynghylch â’r datblygiad arfaethedig wneud hynny erbyn 26ain o Awst 2026. Byddem yn eich annog i’w hanfon trwy e-bost i PAC@cadnantplanning.co.uk neu fel arall gallwch eu hafnon i: Cadnant Planning, 20 Tŷ Connaught, Parc Busnes Riverside, Ffordd Benarth, Conwy, LL32 8UB

Logo for Website.png
RTPI-CTPs-Logo-Screen.jpg

© 2018 Cadnant Planning. All Rights Reserved.

 

Cadnant Planning Ltd Cwmni Cofrestredig yng Nghymu a Lloegr Rhif. 07955299
Rhif TAW Cofrestredig.13274751

Hysbysiad Preifatrwydd Cwstmeriaid - cliciwch yma

© 2023 Cadnant Planning

bottom of page