Tir oddi ar Heol Martin, Eglwysbach
Caer | 01244 621 007
Conwy | 01492 581 800
​

Defnydd o lety gweithwyr dros dro a gwaith cysylltiedig am gyfnod estynedig ym Mlaen Cefn, Penrhyndeudraethh
Mae Cadnant Planning Cyf wedi eu comisiynu gan HOCHTIEF (UK) Construction Ltd i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a datblygiad arfaethedig ar dir ger Blaen Cefn, Penrhyndeudraeth, Porthmadog, LL48 6NA.
Rhoddir rhybudd bod HOCHTIEF (UK) Construction Ltd yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer newid defnydd tir i greu cyfleuster byw dros dro oddi ar y safle i weithwyr yn gysylltiedig â phrosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri, newidiadau i fynedfa gerbydau bresennol, creu ffordd fynediad mewnol, codi adeilad gwasanaeth/lles dros dro ynghyd â gwaith cysylltiedig.
Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwigio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.
​
crynodeb o'r cais
Mae caniatâd cynllunio wedi’i roi’n flaenorol ar gyfer newid defnydd tir ar gyfer creu cyfleuster llety byw dros dro oddi ar y safle ar gyfer gweithwyr sy’n gysylltiedig â phrosiect VIP Eryri, addasiadau i’r fynedfa gerbydau bresennol, creu ffordd fynediad fewnol, codi adeilad gwasanaeth/lles cysylltiedig dros dro ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ym Mlaen Cefn, Penrhyndeudraeth dan ganiatâd cynllunio NP5/76/323R.
Mae'r defnydd o'r safle i ddarparu llety i weithwyr sy'n gysylltiedig â Phrosiect VIP Eryri wedi dechrau'n ddiweddar. Fodd bynnag, oherwydd oedi cyn dechrau’r gwaith cloddio twnnel sy’n ymwneud â Phrosiect VIP Eryri, bydd angen darparu llety ar gyfer gweithwyr sy’n gysylltiedig â gwaith tyllu’r twnnel am gyfnod estynedig hyd at ddiwedd Rhagfyr 2027, gyda’r angen am tua 6 mis pellach i glirio ac adfer y safle.
O ganlyniad, mae’r cais hwn yn cael ei gyflwyno i gytuno i barhau i ddefnyddio’r safle dros dro i ddarparu llety ar gyfer gweithwyr prosiect am gyfnod estynedig hyd at ddiwedd Rhagfyr 2027.
Nid oes angen unrhyw newidiadau eraill i'r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio NP5/76/323R.
Mae'r egwyddor o ddefnydd dros dro o'r safle i ddarparu llety i weithwyr sy'n ymwneud â Phrosiect VIP Eryri wedi'i dderbyn yn flaenorol. Mae'r cais hwn yn ceisio ymestyn y defnydd am ddwy flynedd arall; tan ddiwedd Rhagfyr 2027, oherwydd oedi cyn dechrau o ran gwaith cloddio twnnel.
Er bod y cynnig yn tynnu’n groes i’r polisïau yn y cynllun datblygu mabwysiedig, mae’r cynnig yn un dros dro ac mae’n ofynnol er mwyn cefnogi prosiect VIP Eryri a fydd yn cynorthwyo i ddarparu cyfle mawr i warchod a gwella rhinweddau arbennig a harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth amgylcheddol Parc Cenedlaethol Eryri.
Dogfennau cais cynllunio drafft
Cynlluniau
Cynllun safle arfaethedig – ardal llety
Llety gweithwyr – cynllun llawr ac edrychiadau arfaethedig
Adeilad gwasanaethau - cynllun llawr ac edrychiadau arfaethedig
Cynllun tirlunio caled a medal arfaethedig
Draenio
Manylion Dŵr Aflan – taflen 1