top of page
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn - Black Circle

Datblygiad preswyl o 22 o DAI fforddiadwy ar dir ger Pentrefelin, Caergybi

Mae Cadnant Planning Cyf wedi cael ei gomisiynu gan DU Construction Cyf a Chymdeithas Dai Clwyd Alyn i ymgymryd ag ymgynghoriad cyn-ymgeisio (YCY) ynglÅ·n â datblygiad arfaethedig ar dir sy'n ymylu â Phentrefelin, Caergybi.

​

Rydym yn rhoi hysbysiad bod DU Construction Cyf a Chymdeithas Dai Clwyd Alyn yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer codi 22 o anheddau ynghyd â gwaith cysylltiedig.

​

Cyn cyflwyno’n ffurfiol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â’r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016, bydd yr argymhelliad yn destun ymgynghoriad cyn-ymgeisio

ynglyn a'r cais hwn

Mae'r cais hwn yn cael ei gyflwyno ar y cyd gan DU Construction Ltd, sy'n ddatblygwr lleol a Chymdeithas Tai Clwyd Alyn landlord cymdeithasol cofrestredig lleol.  Byddai'r tai yn cael eu hadeiladu gan DU Construction a byddent yn eiddo i ac yn cael eu rheoli gan Tai Clwyd Alyn.

 

Mae'r datblygiad arfaethedig yn ymwneud â chodi cynllun tai fforddiadwy o 22 o dai ar safle tai dyrannedig (T14) sydd hefyd yn elwa o ganiatâd cynllunio amlinellol. Mae safle'r cais yn gorwedd o fewn ffin ddatblygu Caergybi. 

 

Byddai'r tai fforddiadwy arfaethedig yn cynnwys y cymysgedd canlynol:

 

•             Wyth fflat un ystafell wely dau berson;

•             10 tÅ· dwy ystafell wely pedwar person;

•             Dau dÅ· tair ystafell wely pum person; a

•             Dau dÅ· pedair ystafell wely saith person

DWEUD EICH DWEUD

Rhaid i unrhyw un sy’n dymuno gwneud sylwadau ar y datblygiad arfaethedig hwn wneud hynny erbyn 5 Ionawr 2026. Byddem yn eich annog i anfon y rhain drwy e-bost at PAC@cadnantplanning.co.uk neu fel arall, anfonwch hwy at: Cadnant Planning, 20 TÅ· Connaught, Parc Busnes Riverside, Ffordd Benarth, Conwy, LL32 8UB.

Diolch yn fawr!

9001 CMYK Gwyn.jpg
RTPI-CTPs-Logo-Screen.jpg

© 2018 Cadnant Planning. All Rights Reserved.

 

Cadnant Planning Ltd Cwmni Cofrestredig yng Nghymu a Lloegr Rhif. 07955299
Rhif TAW Cofrestredig.13274751

Hysbysiad Preifatrwydd Cwstmeriaid - cliciwch yma

© 2023 Cadnant Planning

bottom of page