top of page
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn - Black Circle
Kent 8.jpg

ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â phrosiect AfancOD Sir Ddinbych yng ngwarchodfa natur Green gates, Llanelwy

Mae Cadnant Planning Ltd wedi cael eu comisiynu gan Gyngor Sir Ddinbych i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â chynllun i gartrefu teulu o afancod mewn safle caeedig 24 erw yng Ngwarchodfa Natur Green Gates, Llanelwy, LL17 0LE.​

 

I gefnogi'r prosiect hwn, cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus i gael adborth ar y cynigion a phenderfynu a oes unrhyw gyfyngiadau neu faterion yn benodol i’r safle y mae angen mynd i'r afael â nhw cyn y gall y prosiect fynd yn ei flaen.

 

Mae'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal cyn cyflwyno Cais Trwydded ffurfiol i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

YNGLYN A'R PROSIECT

Nod y prosiect yw sefydlu grŵp teuluol o afancod fel rhan o dreial afancod caeedig 5 mlynedd yng Ngwarchodfa Natur Green Gates a monitro eu heffaith ar y gwahanol rywogaethau a chynefinoedd sy'n cael eu creu ac yn datblygu ar y warchodfa natur ar hyn o bryd. Nod y prosiect hefyd yw darparu astudiaeth achos leol gyda ffocws cryf ar addysg, gan ganiatáu i bobl ddysgu am afancod a gweld eu heffaith yn uniongyrchol..

Bydd yr afancod yn cael eu cartrefu mewn safle caeedig diogel, ac felly, bydd Cyngor Sir Ddinbych yn gyfrifol am gynnal eu lles. Bydd hyn yn amod ar gyfer unrhyw drwydded a roddir gan CNC.

Bydd y safle caeedig oddeutu 24 erw o arwynebedd, wedi'i adeiladu gyda ffensys, gan gynnwys mesurau a roddwyd ar waith i atal cloddio ac i atal dringo. Bydd ceuffosydd yn cael eu defnyddio o fewn y safle gyda nodweddion dylunio i atal dianc, ond yn caniatáu i fywyd gwyllt arall fynd i fyny ac i lawr yr afon. Ceir rhagor o fanylion yn y dogfennau ymgynghori isod. Fel rhan o'r drwydded, bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal gwiriadau ffens rheolaidd i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn ddiogel drwy gydol y treial.

Mae afancod yn rhywogaeth allweddol y dangoswyd eu bod yn newid eu hamgylchedd ac yn cynyddu bioamrywiaeth. Nod cyffredinol y prosiect yw y bydd yr afancod hyn yn cynyddu'n sylweddol y digonedd a'r amrywiaeth o fywyd gwyllt yn y warchodfa natur.

 

Rhagwelir y bydd Cyngor Sir Ddinbych yn gallu symud yr afancod i'r safle caeedig yng Ngwanwyn neu Haf 2026. Mae'r dyddiad terfynol yn dibynnu ar y cyfnod penderfynu ar gyfer y cais am drwydded, a pha mor gyflym y mae'r cynefinoedd gwlyptir ar y safle yn sefydlu.

​​

​Cynhelir digwyddiad ymgynghori cyhoeddus ar 24 Medi ym Mhlanhigfa Goed Sir Ddinbych, Gwarchodfa Natur Green Gates,
Llanelwy, LL17 0LF rhwng 3.00y.p. a 7.00y.h. Rydym yn croesawu aelodau o'r gymuned leol i ddod draw i drafod y cynlluniau gydag aelodau o dîm y prosiect. Mae cyfarwyddiadau i'r lleoliad ar gael yma.

DWEUD EICH DWEUD

Rhaid i unrhyw un sy'n dymuno gwneud sylwadau am y cynnig hwn wneud hynny erbyn 14 Hydref 2025. Byddem yn eich annog i e-bostio'r rhain at PAC@cadnantplanning.co.uk neu fel arall anfonwch nhw at: Cadnant Planning, 20 Tŷ Connaught, Riverside Business Park, Ffordd Benarth, Conwy, LL32 8UB.​

9001 CMYK Gwyn.jpg
RTPI-CTPs-Logo-Screen.jpg

© 2018 Cadnant Planning. All Rights Reserved.

 

Cadnant Planning Ltd Cwmni Cofrestredig yng Nghymu a Lloegr Rhif. 07955299
Rhif TAW Cofrestredig.13274751

Hysbysiad Preifatrwydd Cwstmeriaid - cliciwch yma

© 2023 Cadnant Planning

bottom of page