Tir oddi ar Heol Martin, Eglwysbach
Caer | 01244 621 007
Conwy | 01492 581 800
​

Cynllun Tai Fforddiadwy ar hen safle Ysgol Nant y Coed, Cyffordd Llandudno
Mae Cadnant Planning Cyf wedi eu comisiynu gan Cartrefi Conwy i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a datblygiad arfaethedig ar hen safle Ysgol Nant y Coed, Cyffordd Llandudno.
Rhoddir rhybudd bod Cartrefi Conwy yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer datblygiad preswyl arfaethedig sy'n cynnwys codi 43 o dai fforddiadwy, dymchwel ty presennol ar gyfer ffurfio mynediad Newydd, creu ffordd fewnol, gwaith draenio a thirlunio cysylltiedig a gwaith cysylltiedig.
Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwigio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.
ynglyn a'r cais hwn
Mae'r cynnig yn ceisio cais cynllunio llawn ar gyfer codi 43 o dai fforddiadwy ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ym Mhant y Coed, Cyffordd Llandudno. Byddai'r tai'n cael eu datblygu ar ran ac yn cael eu rheoli gan Gartrefi Conwy fel Landlord Cymdeithasol Cofrestredig.
Cynigir mynediad i'r safle oddi ar Ronald Avenue i'r de o'r safle drwy ddymchwel anheddiad presennol er mwyn hwyluso adeiladu mynediad cerbyd gwell. Darperir mynediad cerdded newydd ar y ddwy ochr i'r mynediad cerbyd newydd tra bo hefyd mynediad cerdded yn cael ei gynllunio i gysylltu'r â'r ddarpariaeth bresennol o lwybr teithio gweithgar ar hyd ochr ddeheuol y safle. Bydd y ffordd fewnol yn gwasanaethu pob anheddiad preswyl.
Byddai'r datblygiad yn darparu ar gyfer gofod agored cyhoeddus / mannau mwynhad o fewn y safle, gyda un wedi'i leoli yn ngornel ddeheuol y safle ac un arall ar hyd ffin gogleddol-ddwyreiniol y safleoedd. Hefyd, mae'r cynnig yn ceisio darparu gofod mwynhad wedi'i rannu mewn ffurf ‘ginnell’. Mae hefyd bwriad I ddarparu gofod agored cyhoeddus yn ganolog o fewn y safle ochr yn ochr â system SuDS i ddarparu system dwr arwyneb cynaliadwy.
Mae'r cynnig yn bwriadu at roi cymysgedd o dai sydd wedi'u cydbwyso'n dda sy'n ateb anghenion lleol a nodwyd. Mae'r cymysgedd tai a gynigir fel y ganlyn:
-
15 x annedd 2 ystafell wely.
-
8 x annedd 3 ystafell wely.
-
7 x bynglo 1 ystafell wely;
-
2 x bynglo 2 ystafell wely;
-
8 x fflat cerdded fyny 1 ystafell wely
-
2 x annedd 4 ystafell wely.
-
1 x bynglo hygyrch 3 ystafell wely
Bydd pob eiddo yn cynnwys gardd breifat a fydd wedi’i lleoli i gefn pob uned. Bydd gan bob eiddo hefyd le parcio penodol.
Mae pob eiddo wedi’i gynllunio i gydymffurfio â Safonau Gofynion Ansawdd Dylunio Cymru (DQR). Mae dyluniad yr eiddo wedi’i seilio ar Lyfr Patrwm Tai ar y Cyd.
Bydd ymddangosiad yr eiddo wedi’i orffen mewn cymysgedd o ddeunyddiau i ddarparu ar gyfer edrychiadau ag arddulliau gwahanol ar y safle. Mae’r deunyddiau a gynigir yn cynnwys:
-
Waliau: brics / deunydd cladio.
-
Tô: Teils neu lechi
Mae’r cynllun a gynigir yn cynnwys mynediad cerbydau’n uniongyrchol o'r ffordd fewnol neu trwy ardaloedd parcio sy’n arwain i'r ffordd fewnol.
Dogfennau drafft cais cynllunio
Cynllun
Cynllun Safle Arfaethedig – De-ddwyrain
Cynllun Safle Arfaethedig – Gogledd Orllewin
Lefel Cynlluniau Safle Arfaethedig
Cynllun Safle Arfaethedig – Symlach
Cynlluniau B a Lled-A ar wahân
Dogfennau Eraill
Dadansoddi Safle a Diagramau Datblygu Dylunio
Datganiad Dylunio, Mynediad a Chynllunio
Adroddiad Astudiaeth Cyfleustodau UCML
Adroddiad Amgylcheddol Geodechnegol
Draenio
Cynllun Draenio Dŵr Budr ac Arwyneb
Ecoleg
Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol (gan gynnwys Datganiad Seilwaith Gwyrdd)
Priffyrdd
Coed
Tirlunio




