Tir oddi ar Heol Martin, Eglwysbach
Caer | 01244 621 007
Conwy | 01492 581 800
​
Cynllun tai fforddiadwy ar dir ger Ffordd Glanffynnon, Llanrug
Mae Cadnant Planning Cyf wedi eu comisiynu gan Adra (Tai) Cyfyngedig i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a datblygiad arfaethedig ar dir oddi ar Ffordd Glanffynnon, Llanrug, LL55 4PT
Rhoddir rhybudd bod Adra (Tai) Cyfyngedig yn bwriadu gwneud am cais cynllunio llawn ar gyfer 17 annedd fforddiadwy, ynghyd a chreu mynediad newydd i gerbydau a ffordd fynediad fewnol, cau dau bwynt mynediad amaethyddol presennol, creu mynediad newydd i wasanaethu'r is-orsaf newydd ynghyd â gwaith tirlunio, draenio a gwaith arall cysylltiedig
Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwigio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.
YNGLYN A'R CAIS
Bydd y cynnig yn ceisio am cais cynllunio llawn ar gyfer codi 17 o anheddau ynghyd a darparu mynediad newydd, ffordd fynediad fewnol, ardaloedd wedi'u tirlunio, darpariaethau draenio cysylltiedig a gwaith cysylltiedig ar dir oddi ar Ffordd Glanffynnon, Llanrug.
Mae safle'r cais y tu allan, ond yn gyfagos i ffin datblygu Llanrug, ac yn cael ei drin fel safle eithriad lle bydd anheddau a fwriedir yn 100% dai fforddiadwy ar gyfer angen lleol. Mae’r safle wedi ei leoli wrth ymyl yr anheddau preswyl ar hyd Ffordd Glanffynnon sydd i'r gogledd o'r safle ac wrth ymyl eiddo preswyl Minffordd sydd i'r gogledd-orllewin o'r safle.
Mae'r cynnig yn ceisio darparu mynediad i gerbydau yn uniongyrchol oddi ar Ffordd Glanffynnon. Mae'r cynllun arfaethedig yn cynnwys darpariaeth gysylltiedig ar gyfer mannau agored anffurfiol, strategaeth draenio gynaliadwy a gwelliannau ecolegol.
Mae'r datblygiad arfaethedig yn darparu cymysgedd da o dai sy'n cynnwys y canlynol;
-
4 bynglo dwy ystafell wely
-
1 bynglo pedair ystafell wely
-
5 tÅ· dwy ystafell wely
-
6 tÅ· tair ystafell wely
-
1 tÅ· pump ystafell wely
Dogfennau cais cynllunio drafft
Cynllun
Cynlluniau a Drychiadau Math o Fynglo 3P2L
Cynluniau & Drychiadau Math o DÅ· 4P 2L
Cynlluniau & Drychiadau Math o DÅ· 5P 3Ll
Cynlluniau & Drychiadau Math o Fynglo 6P 4Ll
Cynlluniau & Drychiadau Math o DÅ· 8P 5Ll
Ecoleg a Choed