top of page
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn - Black Circle

Cynllun Tai Fforddiadwy ar dir ger Morfa Cadfan, Tywyn

Mae Cadnant Planning Cyf wedi eu comisiynu gan Adra (Tai) Cyf i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a datblygiad arfaethedig ar Tir oddi ar Morfa Cadfan, Tywyn.

 

Rhoddir rhybudd bod Adra (Tai) Cyf yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer codi 13 o dai fforddiadwy, gan gynnwys darparu mynediad newydd i’r safle, ffordd fynediad fewnol, ardaloedd wedi’u tirlunio, darpariaethau draenio cysylltiedig a gwaith cysylltiedig..

 

Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwigio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.

Crynodeb o'r cais

Mae’r datblygiad hwn yn cael ei gynnig gan Adra (Tai) Cyf, sy’n ceisio caniatâd cynllunio llawn ar gyfer codi 13 o dai preswyl ynghyd â gwaith cysylltiedig, gan gynnwys creu pwynt mynediad newydd i’r safle. Byddai’r datblygiad hefyd yn cynnwys gwaith cysylltiedig ar gyfer ffordd fynediad fewnol a mannau parcio, tirlunio a mannau amwynder cyhoeddus, yn ogystal â darpariaethau draenio, gan gynnwys systemau draenio cynaliadwy.

 

Mae’r cynllun yn darparu 100% o dai fforddiadwy a byddai’n cynnwys 13 o fyngalos, gyda’r nod o ddiwallu angen tai penodol ar gyfer pobl leol. Y bwriad yw rhoi blaenoriaeth i’r unedau a gynigir i ymgeiswyr dros 55 oed. Fodd bynnag, os na ellir gosod pob uned yn uniongyrchol i ymgeiswyr o’r oedran hwn, bydd ymgeiswyr iau na 55 oed sydd angen uned hygyrch hefyd yn cael eu hystyried.

 

Mae’r holl dai arfaethedig yn cynnwys byngalos dwy ystafell wely. Bydd pob uned yn hunangynhwysol, gyda dwy ystafell wely, cegin/ardal fwyta, ystafell fyw ac ystafell ymolchi. Bydd y cynllun yn cynnwys cyfanswm o 21 o fannau parcio ar y safle, gyda 8 ohonynt ar gyfer ymwelwyr, a bydd ardal ardd amwynder yn cael ei darparu naill ai o flaen a/neu y tu ôl i bob uned.

 

Bydd mynediad i gerbydau i’r safle yn cael ei ddarparu drwy ymestyn y ffordd fynediad bresennol sy’n gwasanaethu adeilad presennol Morfa Cadfan i’r gorllewin. Bydd llwybrau newydd yn cael eu darparu ar y safle, ynghyd â thirlunio meddal ar ffurf plannu coed a gwrychoedd.

 

Mae’r cynllun arfaethedig yn cynnwys darpariaeth gysylltiedig i gogledd-orllewin y safle ar gyfer darparu basn gwanhau, a fydd yn rhan o’r strategaeth ddraenio gynaliadwy ar gyfer y datblygiad. Bydd man amwynder anffurfiol yn cael ei ddarparu yng nghornel de-orllewinol y safle, ynghyd â phlannu meddal i’w wneud mewn rhannau o’r safle. Mae’r cynnig hefyd yn darparu coridor draenio dŵr wyneb i’r gogledd o’r safle, a fydd yn darparu cysylltiad ar gyfer gollwng dŵr wyneb i’r cwrs dŵr.

DWEUD EICH DWEUD

Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno sylwadau ynghylch â’r datblygiad arfaethedig wneud hynny erbyn 02 Tachwedd 2026. Byddem yn eich annog i’w hanfon trwy e-bost i PAC@cadnantplanning.co.uk neu fel arall gallwch eu hafnon i: Cadnant Planning, 20 Tŷ Connaught, Parc Busnes Riverside, Ffordd Benarth, Conwy, LL32 8UB

Logo for Website.png
RTPI-CTPs-Logo-Screen.jpg

© 2018 Cadnant Planning. All Rights Reserved.

 

Cadnant Planning Ltd Cwmni Cofrestredig yng Nghymu a Lloegr Rhif. 07955299
Rhif TAW Cofrestredig.13274751

Hysbysiad Preifatrwydd Cwstmeriaid - cliciwch yma

© 2023 Cadnant Planning

bottom of page