top of page
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn - Black Circle

​DATBLYGIAD PRESWYL YN SUMMERHILL, CAERWYS,

SIR Y FFLINT, CH7 5AW

Mae Cadnant Planning Cyf wedi eu comisiynu gan Summerhill Caerwys Cyf. i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a datblygiad arfaethedig ar Summerhill, Caerwys, Sir y Fflint, CH7 5AW.

 

Rhoddir rhybudd bod Summerhill Caerwys Cyf. yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer datblygiad preswyl fel cynllun amgen i'r un a gymeradwywyd o dan cyfeirnod caniatâd cynllunio 054007 ar gyfer cam 4 or datblygiad, ynghyd â gwaith cysylltiedig, yn Summerhill, Caerwys, Sir y Fflint.

 

Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwigio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.

Crynodeb o'r cais

Mae’r cynnig hwn yn ceisio darparu cynllun amgen i’r datblygiad preswyl a gymeradwywyd yn flaenorol ar gyfer Summerhill, Caerwys, a gymeradwywyd o dan gyfeirnod caniatâd cynllunio 0/54007 ar gyfer ffurfio cam 4 or datblygoad. Mae caniatâd cynllunio 0/54007 ar waith ar gyfer codi 67 o anheddau ar draws y safle; fodd bynnag, mae ceisiadau 0/61030 a FUL/000397/22 dilynol wedi’u cyflwyno i ddiwygio niferoedd a gosodiad nifer or unedau ar rannau. Hyd yma, mae 16 o unedau wedi’u hadeiladu ar y safle o dan ganiatadau 0/54007 a 0/61030 (Cam 1 a 2), gyda chaniatâd cynllunio pellach ar gyfer 9 uned y gellir eu datblygu o dan gais cyfeirnod FUL/000397/22 (Cam 3).

 

Mae cynllun amgen yn cael ei fwriadu oherwydd materion hyfywedd sy’n gysylltiedig â’r cynllun gwreiddiol. Byddai’r cynllun amgen yn ceisio datblygu gweddill y safle drwy godi 25 o unedau, gan ddarparu cymysgedd o fflatiau, tai pâr ac anheddau teuluol ar wahân. Byddai’r datblygiad hefyd yn cynnwys gwaith tirlunio meddal a chreu seilwaith draenio addas.

 

Byddai’r cynnig yn darparu’r cymysgedd tai canlynol:

·        4 x fflat un ystafell wely;

·        2 x annedd bâr dwy ystafell wely;

·        12 x annedd bâr tair ystafell wely; a

·        7 x annedd ar wahân pedair a phum ystafell wely.

 

Byddai’r cynllun yn cynnwys darpariaeth ar y safle ar gyfer tai fforddiadwy, yn amodol ar hyfywedd.

DWEUD EICH DWEUD

Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno sylwadau ynghylch â’r datblygiad arfaethedig wneud hynny erbyn y 7fed o Hydref 2026. Byddem yn eich annog i’w hanfon trwy e-bost i PAC@cadnantplanning.co.uk neu fel arall gallwch eu hafnon i: Cadnant Planning, 20 Tŷ Connaught, Parc Busnes Riverside, Ffordd Benarth, Conwy, LL32 8UB

Logo for Website.png
RTPI-CTPs-Logo-Screen.jpg

© 2018 Cadnant Planning. All Rights Reserved.

 

Cadnant Planning Ltd Cwmni Cofrestredig yng Nghymu a Lloegr Rhif. 07955299
Rhif TAW Cofrestredig.13274751

Hysbysiad Preifatrwydd Cwstmeriaid - cliciwch yma

© 2023 Cadnant Planning

bottom of page