top of page
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn - Black Circle

Cynllun tai fforddiadwy ar dir ger Ty'n Lôn, Y Ffôr

Mae Cadnant Planning Ltd wedi cael comisiwn gan Williams Homes (Bala) Ltd a Grŵp Cynefin i gynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio (PAC) mewn perthynas â'r datblygiad arfaethedig ar dir ger Ty'n Lôn, Y Ffȏr.

 

Rydym yn rhoi hysbysiad bod Williams Homes (Bala) Ltd a Grŵp Cynefin yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer codi 27 o anheddau fforddiadwy, newidiadau i'r fynedfa gerbydau bresennol o'r B4354, creu ffordd fynediad fewnol, man agored cyhoeddus ynghyd â gwaith cysylltiedig.

 

Cyn ei gyflwyno’n ffurfiol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â’r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.

Crynodeb o'r cais

Mae’r cais arfaethedig hon yn uniad partneriaeth rhwng Wiliams Homes (Bala)Ltd a Grŵp Cynefin am gynllun 100% dai fforddiadwy yn YFfor, Pwllheli. Mi fydd yr annedd arfaethedig yn cael ei godi gan Wiliams Homes (Bala) Ltd fel datblygwyr tai , ar ran Grŵp Cynefin sydd am orchwylio perchnogaeth a rheoli'r anheddau.

 

Mae’r cynnig hon yn chwilota i sicrhau cais cynllunio llawn ar gyfer y datblygiad o 27 dai fforddiadwy gyda newidiadau i’r ffordd bresennol o’r B4354, mynediad Newydd mewnol o’r lon, ardal agored gyhoeddus gyda Gwaith cysylltiol.

 

Mae rhan fwyaf o’r lleoliad y cais tu fewn i’r ffin datblygu YFfor ac wedi’u leoli yn yr adeiladwaith preswyl Gwynedd ac Ynys Môn (JLDP). Mae darn bychan o’r tir ar yr ochr  Gogledd Ddwyrain o’r lleoliad y cais wedi’u leoli tu allan y ffin datblygu a lleoliad y tai. Felly mi fydd   darn o’r  cynnig yn cynrychioli'r eithriad am 100% o dai fforddiadwy.

 

Mae lleoliad y cais yn gorwedd yn ymyl y prif lon B4354 i’r dwyrain o’r YFfor, i’r gogledd o Barc Busnes Gromlech, rhwng Ty’n Lon i’r dwyrain a Perthi i’r gorllewin.

 

Mae’r cynnig yn anelu i ddosbarthu cymysgedd da o dai gwahanol sy’n cyfeirio yn unol tuag at anghenion yr ardal. Cymysgedd tai sydd i’w gynnig yw:

  • 6 x Fflat 1- Gwely

  • 12 x Tŷ 2 - Gwely

  • 8 x Dŷ 3 - Gwely: ac

  • 1 x Tŷ 4 - Gwely

DWEUD EICH DWEUD

Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno sylwadau ynghylch â’r datblygiad arfaethedig wneud hynny erbyn 29 Fedi 2025.  Byddem yn eich annog i’w hanfon trwy e-bost i PAC@cadnantplanning.co.uk neu fel arall gallwch eu hafnon i: Cadnant Planning, 20 Tŷ Connaught, Parc Busnes Riverside, Ffordd Benarth, Conwy, LL32 8UB.

Cynhelir digwyddiad ymgynghori cyhoeddus yn Y Festri, Capel Ebeneser, Y Ffôr ar 2il o Fedi 2025 rhwng 3yp a 6yh.

Diolch yn fawr!

9001 CMYK Gwyn.jpg
RTPI-CTPs-Logo-Screen.jpg

© 2018 Cadnant Planning. All Rights Reserved.

 

Cadnant Planning Ltd Cwmni Cofrestredig yng Nghymu a Lloegr Rhif. 07955299
Rhif TAW Cofrestredig.13274751

Hysbysiad Preifatrwydd Cwstmeriaid - cliciwch yma

© 2023 Cadnant Planning

bottom of page