Tir oddi ar Heol Martin, Eglwysbach
Caer | 01244 621 007
Conwy | 01492 581 800
Datblygiad cartref gofal yn Hen Bentref Pwylaidd Penrhos, Pwllheli
Mae Cadnant Planning Cyf wedi eu comisiynu gan Cyngor Gwynedd i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a datblygiad arfaethedig ar Hen Bentref Pwylaidd Penrhos, Pwllheli, LL53 7HN
Rhoddir rhybudd bod Cyngor Gwynedd yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer codi cyfleuster cartref gofal preswyl (dosbarth defnydd C2) ynghyd â gwaith cysylltiedig ar gyfer mynedfa, parcio, tirlunio, seilwaith draenio a gwaith cysylltiedig.
Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwigio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.
Crynodeb o'r cais
Mae Cyngor Gwynedd yn ceisio codi cartref gofal preswyl ar hen safle Pentref Pwylaidd Penrhos fel rhan o ddatblygiad pellach y safle ehangach. Mae'r cartref gofal arfaethedig i fod i gymeryd lle cyfleuster tebyg a sefydlwyd yn flaenorol ar y safle y bu iddo gau ym mis Rhagfyr 2020.
Mae Pentref Pwylaidd Penrhos yn cael ei drawsnewid yn sylweddol i ddarparu 107 o gartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel, ynni-effeithlon gan Tai ClwydAlyn. Mae gwaith adeiladu Cam 1 yn agosáu at gwblhau, gyda gwaith ar gyfer cyfnod da a thri i ddilyn yn y dyfodol agos. Mae Cyngor Gwynedd mewn cydweithrediad â Tai ClwydAlyn, yn edrych i ailddatblygu’r hen Bentref Pwylaidd a chreu amgylchedd byw modern o ansawdd uchel a'r cyfleuster cartref gofal yw elfen olaf yr uwchgynllun ailddatblygu hwn. Mae Tai ClwydAlyn yn cyflenwi’r cynllun preswyl a Chyngor Gwynedd yn cyflawni’r cyfleuster cartref gofal. Y bwriad gwreiddiol oedd i’r cartref gofal gael ei gynnwys yn yr un cais â'r cynllun preswyl, fodd bynnag, roedd y cais preswyl wedi datblygu yn fwy na’r cartref gofal, mae’r ddau gynllun wedi’w symud ymlaen o dan geisiadau ar wahan, gyda caniatad wedi cael ei roi a gwaith yn mynd rhagddo ar y safle ar gyfer y datblygiad preswyl.
Mae’r datblygiad arfaethedig yn ceisio darparu cyfleuster gofal newydd, arloesol a phwrpasol drwy bartneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Cymdeithas Tai ClwydAlyn. Mae’r cartref gofal yn rhan o gampws iechyd a gofal integredig ehangach Penrhos ac mae’n cyd-fynd â blaenoriaethau polisi lleol a chenedlaethol i ailgydbwyso’r farchnad ofal, cefnogi darpariaeth gofal ddwyieithog, a darparu llety cynaliadwy o ansawdd uchel yn nes at gartrefi pobl.
Byddai’r datblygiad arfaethedig yn darparu cartref gofal preswyl a nyrsio modern o ansawdd uchel, yn cynnwys 32 o welyau gofal dementia preswyl a 24 o welyau gofal nyrsio, y bydd 8 ohonynt yn welyau nyrsio dementia. Bydd y cyfleuster wedi’i gynllunio yn unol â safonau rheoleiddiol modern, gan gynnwys cyfleusterau en-suite llawn ym mhob ystafell a nodweddion sy’n gyfeillgar i bobl sy’n byw gyda dementia. Bydd y cyfleuster hefyd yn cynnwys lle ar gyfer gwasanaethau ac amwynderau ychwanegol, gan gynnwys lolfa i breswylwyr, bwyty, ystafelloedd therapi, swyddfeydd ac ystafelloedd cyfarfod, salonau trin gwallt, ynghyd â chyfleusterau a mannau gwasanaeth priodol eraill. Bydd y cyfleuster hefyd yn cynnwys cwrt mewnol agored, yn ogystal â llwybr cerdded dan do sy’n cysylltu â’r bloc fflatiau cyfagos.
Yn ogystal â'r uchod, mae'r cynnig yn cynnwys gwaith cysylltiedig ar gyfer mynediad, man gollwng argyfwng/ambiwlans, parcio gyda darpariaeth ar gyfer mannau i'r anabl a baeau gwefru EV, ystafelll beiriannau, cynllun tirlunio cynhwysfawr gan gynnwys plannu coed a llystyfiant brodorol, a seilwaith draenio i gynnwys systemau draenio cynaliadwy.
Dogfennau cais cynllunio drafft
Cynllun
Storfa Sbwriel Allanol y Safle
Storfa Beiciau Allanol y Safle
Drychiadau Arfaethedig - Taflen 1
Drychiadau Arfaethedig - Taflen 2
Adrannau Arfaethedig - Taflen 1
Adrannau Arfaethedig - Taflen 2
Draenio
Aliniad Fertigol GA a Ffordd Fynediad
Strategaeth Draenio - Crynodeb Annhechnegol
Ecoleg
Gwerthusiad Ecolegol Rhagarweiniol (GER)
Atodiad B y GER – Data'r Astudiaeth Ddesg
Tirlunio
Cynllun Gwella a Lliniaru Tirwedd a Chynefinoedd (CGLTC)
Cynllun Ardal Lliniaru - Presennol
Cynllun Ardal Lliniaru – Blwyddyn 1-5
Cynllun Ardal Lliniaru – Blwyddyn 6-30
Cynllun Gwella Tirwedd ar y Safle Cyfan
Coed
Goleuadau ac Ynni
Strategaeth Ynni - Nodyn Technegol
Strategaeth Goleuo - Nodyn Technegol
Trafnidiaeth
Datganiad Trafnidiaeth - Crynodeb Gweithredol
Dogfennau Eraill
DWEUD EICH DWEUD
Cynhelir digwyddiad ymgynghori cyhoeddus yn Ystafell Gyffredin Bloc K, Pentref Pwylaidd Penrhos, Penrhos, Pwllheli, LL53 7HN ddydd Gwener 26 Mehefin rhwng 3-7yp.
Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno sylwadau ynghylch â’r datblygiad arfaethedig wneud hynny erbyn 15 Gorffennaf 2026. Byddem yn eich annog i’w hanfon trwy e-bost i PAC@cadnantplanning.co.uk neu fel arall gallwch eu hafnon i: Cadnant Planning, 20 Tŷ Connaught, Parc Busnes Riverside, Ffordd Benarth, Conwy, LL32 8UB

