top of page
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn - Black Circle

Cynllun ailddatblygu a thrawsnewid yn Mona Inn a Mona Isaf, Heol Caergybi, Mona

Mae Cadnant Planning Cyf wedi eu comisiynu gan Grŵp Amos Cymru Cyf i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a datblygiad arfaethedig ar Mona Inn a Mona Isaf, Ffordd Caergybi, Mona, Gwalchmai, LL77 7EQ.

 

Rhoddir rhybudd bod Grŵp Amos Cymru Cyf yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer adnewyddu'r annedd presennol a trosi adeiladau allanol i unedau preswyl, ynghyd â chreu mynediad newydd i gerbydau a chau mynedfeydd presennol i gerbydau ynghyd â gwaith cysylltiedig.

 

Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwigio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.

ynglyn a'r cais hwn

Mae'r cais hwn yn cael ei gyflwyno gan Grŵp Amos Cymru Cyf, sy'n ceisio adnewyddu Mona Inn a Mona Isaf, ynghyd â throsi yr adeiladau allanol cysylltiedig, yn unedau preswyl marchnad agored. Mae'r adeiladau hyn yn asedau treftadaeth dynodedig, sydd wedi'u rhestru Gradd II a Gradd II* yn y drefn honno, ac maent wedi dadfeilio ar ôl blynyddoedd o esgeulustod. Cynhaliwyd gwaith brys diweddar i atgyweirio ac ailosod rhan o dô'r Mona Inn, a oedd mewn cyflwr difrifol, ac mae'r cynnig hwn yn ceisio sicrhau dyfodol hirdymor yr adeiladau hyn trwy gynllun hyfyw a wedi’w ystyried yn gynhwysfawr sy'n mabwysiadu dull cadwraeth.

 

Mae'r datblygiad yn ceisio adnewyddu'r adeiladau presennol a bydd yn lleoli pob uned breswyl newydd o fewn yr adeiladau presennol hyn, sydd i gyd wedi bod yn destun arolygon strwythurol ac yn cael eu hystyried yn addas i'w trosi. Mae'r adeiladau hyn hefyd wedi bod yn destun arolygon ecolegol ac asesiad effaith treftadaeth (HIS), ac ystyriwyd bod y cynnig yn addas. Bydd y gwaith corfforol yn cael ei gyfyngu i'r rhai sy'n angenrheidiol yn unig, a bydd deunyddiau allanol newydd yn ceisio cyd-fynd â'r gorffeniadau presennol.

 

Mae'r cais yn cyd-fynd â chynllun tirlunio a fydd yn darparu gwelliant sylweddol i fioamrywiaeth, ynghyd â strategaeth ddraenio gynaliadwy sy'n mabwysiadu egwyddorion cadwraeth dŵr a fydd yn ymdrin â draenio dŵr wyneb a dŵr budr.

Dogfennau drafft cais cynllunio 

DWEUD EICH DWEUD

Rhaid i unrhyw un sy’n dymuno gwneud sylwadau ar y datblygiad arfaethedig hwn wneud hynny erbyn 31 Mawrth 2026. Byddem yn eich annog i anfon y rhain drwy e-bost at PAC@cadnantplanning.co.uk neu fel arall, anfonwch hwy at: Cadnant Planning, 20 TÅ· Connaught, Parc Busnes Riverside, Ffordd Benarth, Conwy, LL32 8UB.

Diolch yn fawr!

9001 CMYK Gwyn.jpg
RTPI-CTPs-Logo-Screen.jpg

© 2018 Cadnant Planning. All Rights Reserved.

 

Cadnant Planning Ltd Cwmni Cofrestredig yng Nghymu a Lloegr Rhif. 07955299
Rhif TAW Cofrestredig.13274751

Hysbysiad Preifatrwydd Cwstmeriaid - cliciwch yma

© 2023 Cadnant Planning

bottom of page