Tir oddi ar Heol Martin, Eglwysbach
Caer | 01244 621 007
Conwy | 01492 581 800
​
Datblygiad preswyl yn Penrhos Heights, Rhodfa'r Frenhines, Bae Colwyn
Mae Cadnant Planning Cyf wedi eu comisiynu gan Watkin Property Ventures Developments Limited i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a datblygiad arfaethedig ar Penrhos Heights, Rhodfa'r Frenhines, Bae Colwyn.
Rhoddir rhybudd bod Watkin Property Ventures Developments Limited yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer datblygiad preswyl fel cynllun amgen i'r un a gymeradwywyd o dan cyfeirnod caniatâd cynllunio 0/46130 ar gyfer camau 4 a 5 o'r datblygiad, ynghyd â gwaith cysylltiedig, yn Penrhos Heights, Bae Colwyn.
Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwigio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.
YNGLYN A'R CAIS
Mae'r cynnig hwn yn ceisio cyflawni cynllun amgen i'r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol ar gyfer camau 4 a 5 o'r datblygiad preswyl o'r enw Penrhos Heights, a gymeradwywyd o dan gyfeirnod caniatâd cynllunio 0/46130. Mae caniatâd cynllunio ar waith ar gyfer codi 35 o anheddau ar draws y ddau ran yma, fodd bynnag, mae cynllun arall yn cael ei ddilyn oherwydd problemau hyfywedd gyda'r cynllun gwreiddiol. Mae trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda'r awdurdod lleol drwy'r broses ymholiad cyn ymgeisio ffurfiol sydd wedi galluogi'r ymgeisydd i ddatblygu'r cynllun sydd bellach yn cael ei gynnig.
Byddai'r datblygiad yn ceisio cadw a throsi Queen's Lodge yn 11 o fflatiau, ac hefyd yn darparu cymysgedd o dai teuluol pâr a thai teuluol ar wahân. Byddai'r cynnig dan arweiniad cadwraeth, gan gadw dyfodol hirdymor Queen's Lodge, tra'n darparu cynllun preswyl o ansawdd uchel ar draws gweddill y safle. Byddai'r datblygiad hefyd yn cynnwys gwaith tirlunio cynhwysfawr a chreu seilwaith draenio addas.
Byddai'r cynnig yn darparu'r cymysgedd canlynol o dai:
• 11 x o fflatiau dwy ystafell wely;
• 6 x annedd pâr tair ystafell wely; a
• 12 x annedd ar wahân pedair a phum ystafell wely.
Byddai’r bwriad yn darparu tai fforddiadwy ar y safle, yn amodol ar hyfywedd.
Dogfennau cais cynllunio drafft
​
Cynlluniau
Cynlluniau - Tai Newydd
Cynlluniau Queens Lodge
Cynllun LlG Presennol Queens Lodge
Cynllun LLC Presennol Queens Lodge
Cynllun AL Presennol Queens Lodge
Cynllun LlG Arfaethedig Queens Lodge
Cynllun LLC Arfaethedig Queens Lodge
Cynllun AL Arfaethedig Queens Lodge
Atodlen Ffenestri –Llawr Cyntaf Queens Lodge
Atodlen Ffenestri – Llawr Gwaelod Queens Lodge
Atodlen Ffenestri – Ail Lawr Queens Lodge
Drychiad 1 Lliw - Queens Lodge
Drychiad 2 Lliw - Queens Lodge
Drychiad Gogleddol Presennol A1 - Queens Lodge
Drychiad Deheuol Presennol A1 - Queens Lodge
Coedyddiaeth
Asesiad Effaith Coedwigaeth
​
Draenio
Cynllun Lleoliad y Safle
Cynllun Llwybro Llifogydd Presennol
​
Tirlunio
​
Ecoleg
Arfarniad Ecolegol Rhagarweiniol
​
Goleuo Stryd
Trydanol
Cyfrifiad Ceblo
Amserlen Ceblo
Cyfrifiad Goleuadau
Gosodiad Goleuadau
Asesiad Risg Dylunio Goleuo
​
Strwythurol
Gwerthusiad Strwythurol Diwygiedig
Llyniau Waliau Allanol
Llyniau Llawr Cyntaf
Llyniau Llawr Gwaelod
Llyniau To Mewnol
Llyniau Ail Lawr
​
Adroddiadau a Dogfennau Eraill

