top of page

Cynllunydd neu Cynorthwyydd Cynllunio

Eich rôl

Byddwch yn gweithio ar nifer o brosiectau amrywiol, felly mae gallu profedig i reoli eich amser eich hun, eich llwyth gwaith a datrys problemau yn hollbwysig. Yn ddelfrydol, byddwch hefyd yn gallu dangos y sgiliau sydd eu hangen i farchnata ac arloesi gan fod y rhain yn elfennau pwysig o'r rôl hon. Byddech yn ymwneud ag amrywiaeth o brosiectau i gefnogi'r gwaith ymgynghori cynllunio a datblygu ac i gynghori cleientiaid gyda chymorth Cyfarwyddwr a Chynlluniwr Cyswllt.

​

Gofynion Hanfodol:

  • Blwyddyn o brofiad ôl-raddedig mewn ymgynghori neu lywodraeth leol

  • Gradd Cynllunio Trefol neu debyg

  • Wedi cyflawni neu'n gweithio tuag at aelodaeth siartredig o'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (MRTPI)

  • Sgiliau dadansoddi, cyflwyno ac ysgrifennu rhagorol

  • Ymrwymiad clir i weithio ym maes cynllunio a datblygu eiddo. 

​

Gofynion Dymunol:

  • Dwy flynedd o brofiad ôl-raddedig mewn ymgynghori neu lywodraeth leol

  • Gradd meistr mewn pynciau achrededig RTPI/RICS neu barodrwydd i weithio tuag at radd o'r fath

  • Y gallu i siarad a chyfathrebu'n hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg ynghyd â sgiliau ysgrifennu da yn y Gymraeg

​

Bydd eich llwyth gwaith yn cynnwys:

  • Paratoi ceisiadau cynllunio ac apeliadau;

  • Arfarniadau cynllunio;

  • Strategaethau cynllunio; a

  • Cyflwyno sylwadau ar gynlluniau datblygu.

​

Byddwch yn rhoi cyngor ac arweiniad i amrywiaeth o gleientiaid gan gynnwys datblygwyr, adeiladwyr tai, busnesau twristiaeth, cwmnïau ynni ac unigolion preifat yn ogystal ag awdurdodau cynllunio lleol a sefydliadau trydydd sector eraill.

 

Cyflog a buddion

  • Gweithio hyblyg

  • Pensiwn y cwmni

  • Bonws blynyddol

  • Cyfleoedd i fynychu digwyddiadau yn rhan o’r tîm

  • Cyfleoedd i ehangu eich rhwydweithiau

  • Talu am aelodaeth RTPI

​

Lleoliad

Rydym yn cynnig hyblygrwydd i weithio o’n swyddfa yng Nghonwy neu Gaer a hefyd gweithio o gartref, ynghyd â’r cyfle i weithio mewn amgylchedd sy’n caniatáu cydbwysedd rhagorol rhwng bywyd a gwaith. Efallai y bydd y swydd hon hefyd yn gofyn am rywfaint o deithio allan i wahanol safleoedd gyda'r Cynllunwyr.

 

Ymunwch â’n tîm!

Mae'r cwmni yn gwmni cymdeithasol a chefnogol. Fel cyflogwr cyfle cyfartal rydym yn anelu at gael gweithle amrywiol a chynhwysol ac anogir ymgeiswyr â chymwysterau addas o ystod eang o gefndiroedd i wneud cais.

Anfonwch eich CV a llythyr cyflwyno i rhys.davies@cadnantplanning.co.uk

​

Darparwch wybodaeth lawn am eich addysg a'ch cymwysterau proffesiynol, gan gynnwys lefelau cyrhaeddiad.

​

Swydd Ddisgrifiad a Gofynion

200723_Llangefni Sports PAC_008_View from the campus.jpg
Picture2.png
bottom of page