top of page

Codi 10 tÅ· fforddiadwy ar dir oddi ar Heol Martin, Eglwysbach

YNGLYN A'R CAIS

Mae'r datblygiad arfaethedig yn ymwneud â chais cynllunio llawn ar gyfer codi 10 annedd fforddiadwy, ynghyd â gwaith cysylltiedig ar gyfer gosod ffordd fynediad fewnol newydd sy'n ymestyn o Heol Martin, darparu bylchau parcio ychwanegol i wasanaethu'r anheddau presennol ar Stryd Fawr Eglwysbach, ardaloedd wedi'u tirlunio a darpariaethau draenio.


Dyrennir y safle ar gyfer datblygiad preswyl o hyd at 10 tÅ· annedd o dan Bolisi HOU/1 Cynllun Datblygu Lleol Conwy (CDLl) ac mae'r datblygiad yn cynnig codi 10 annedd fforddiadwy. Mae polisi cynllunio lleol yn nodi y dylai datblygiadau preswyl ar safleoedd a ddyrannwyd o fewn 'Prif Bentrefi' Haen 2, fel Eglwysbach, geisio sicrhau 100% o’r angen am dai fforddiadwy lleol (AHLN) o dan Bolisi HOU/2 y CDLl.

​

Bydd yr holl dai yn cael eu darparu fel tai fforddiadwy a fydd ar gyfer pobl leol drwy gofrestrau tai fforddiadwy lleol fel Tai Teg. Mae trafodaethau'n parhau gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig lleol er mwyn sicrhau bod y tai hyn yn cael eu darparu fel anheddau fforddiadwy i drigolion lleol, a disgwylir y bydd LCC yn cyd-weithio â'r prosiect hwn yn y dyfodol agos.


Bydd y datblygiad yn ymestyn ffordd ystâd Heol Martin i'r de-ddwyrain, gyda ffordd newydd yn ymestyn i ffwrdd i wasanaethu'r anheddau arfaethedig a chyrraedd cefn gerddi'r anheddau ar y stryd fawr, lle nodir bod chwe lle parcio ychwanegol yn cael eu darparu i leddfu'r problemau parcio a wynebir ar hyd y Stryd Fawr. Bydd yr holl anheddau arfaethedig wedi'u lleoli y tu allan i'r parth perygl llifogydd ac i ffwrdd o'r cwrs dŵr sydd i'r de o'r safle. Mae'r datblygiad wedi'i gynllunio i gadw cymaint o'r llystyfiant a'r coed presennol yn y safle a'r cyffiniau ac mae'r anheddau wedi'u cynllunio i fod o ansawdd uchel o ran ymddangosiad a deunyddiau, gyda chyd-destun yr ardal gyfagos yn cael ei gadw mewn cof.

​

Mae rhagor o fanylion ar gael o fewn y dogfennau cais cynllunio drafft sydd wedi'u cynnwys yn y pecyn ymgynghori cyn ymgeisio hwn.

​

Dogfennau drafft cais cynllunio 

DWEUD EICH DWEUD

Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno sylwadau ynghylch â’r datblygiad arfaethedig wneud hynny erbyn 22 Rhagfyr 2024. Byddem yn eich annog i’w hanfon trwy e-bost i PAC@cadnantplanning.co.uk neu fel arall gallwch eu hafnon i: Cadnant Planning, 20 TÅ· Connaught, Parc Busnes Riverside, Ffordd Benarth, Conwy, LL32 8UB

Diolch yn fawr!

bottom of page