Tir oddi ar Heol Martin, Eglwysbach
Caer | 01244 621 007
Conwy | 01492 581 800
​
Codi 40 o dai fforddiadwy ar dir ger Maes Mona, Amwlch
Mae Cadnant Planning Ltd wedi’i gomisiynu gan Gyngor Sir Ynys Môn i gynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio (PAC) mewn perthynas â datblygiad arfaethedig ar Dir oddi ar Faes Mona, Amlwch, LL68 9AT.
Rydym yn hysbysu bod Cyngor Sir Ynys Môn yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn i godi 40 o dai fforddiadwy ynghyd â gwaith cysylltiedig.
Cyn ei gyflwyno’n ffurfiol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â’r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.
YNGLYN A'R CAIS
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â chais cynllunio drafft gan Gyngor Sir Ynys Môn i ddatblygu cynllun o 40 o dai fforddiadwy ar dir ger Maes Mona, Amlwch.
Cyngor Sir Ynys Môn sy'n berchen safle'r cais ac mae wedi'i ddyrannu yng Nghynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ar gyfer datblygiad preswyl o hyd at 50 o dai.
Byddai’r tai fforddiadwy arfaethedig yn cynnwys y cymysgedd fel a ganlyn:
-
10 x fflat un llofft;
-
3 x byngalo un llofft;
-
3 x byngalo dwy ystafell wely;
-
12 x tÅ· dwy lofft;
-
8 x tÅ· tair llofft; a
-
4 x ty pedair llofft.
Byddai'r ddau ddarn o dir sy'n ffurfio safle'r cais yn cael eu datblygu fel dau gam, gyda'r tir i'r gorllewin yn ffurfio rhan 1 a'r parsel dwyreiniol yn ffurfio rhan 2. Byddai Cam 1 yn cynnwys 19 o dai (plotiau 1-19) a 21 o dai (plotiau 20-40) yng Ngham 2.
Byddai gan bob tÅ· le parcio i'r blaen/ochr gyda rhan fechan o ardd flaen/ochr gyda'r brif ardd yn y cefn. Byddai man patio a sied ardd yn cael eu darparu o fewn pob llain.
Byddai dau bwynt mynediad i gerbydau yn cael eu darparu o Faes Mona; un yn parhau gyda'r ffordd fynediad tua'r gogledd rhwng rhifau 46 a 47 Maes Mona a'r llall yn dilyn y ffordd fynediad i'r dwyrain, rhwng rhifau 29 a 50 Maes Mona.
Mae ardaloedd presennol creigiog ar y tir o fewn y llain ddwyreiniol, a chynigir darparu ardal o fannau agored cyhoeddus o fewn yr ardal hon, gyda chysylltiadau i gerddwyr o fewn yr ardal. Byddai cysylltiad i gerddwyr rhwng cam 1 a cham 2, yn ogystal a chysylltu llybrau cerdded tuag at yr A5025 (Ffordd Porth Llechog) i'r gogledd. Cynigir pocedi anffurfiol o fannau agored o fewn y safle ehangach, lle cynigir coed a thirlunio meddal.
​
​Mae diwrnod agored yn cael ei gynnal ar Ragfyr 11eg 2024 o 3pm-6pm yn Neuadd Goffa, Amlwch i drafod y datblygiad lle cewch gyfle i weld ein cynlluniau a rhannu eich barn. Gweler y Daflen Diwrnod Agored yn y rhestr dogfennau isod am ragor o fanylion.
​
Dogfennau cais cynllunio drafft
Datganiad Dylunio, Mynediad a Chynllunio
​
​
Cynlluniau
Adrannau Safle ac Adeiladau Arfaethedig
2P 1B Cynlluniau Fflat a Gweddluniau
2P 1B Byngalo Cynlluniau a Gweddluniau
3P 2B Byngalo Cynlluniau a Gweddluniau
4P 2B Cynlluniau Tai a Gweddluniau
5P 3B Cynlluniau Tai a Gweddluniau
7P 4B Cynlluniau Tai a Gweddluniau
​
Draeniad
Draenio - Cynllun Lleoliad Safle Arfaethedig
Draenio - Ardaloedd Datblygedig Arfaethedig
Draenio – Cynllun Cyfyngiadau Safle
​
Tirlunio
Taflen Tirwedd Meddal Arfaethedig 1
Taflen Tirwedd Meddal Arfaethedig 2
​
Arolygon Coed
​
Adroddiadau Ecoleg
Adroddiad Ecoleg Tir yn Bull Bay Road 2020
Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol Maes Mona 2020
Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol Maes Mona ac Arolygon Ymlusgiaid 2020
Adroddiad Goruchwylio Maes Mona 2022
Adroddiad Asesiad ac Arolwg Ecolegol Rhagarweiniol Maes Mona 2024
​
Dogfennau
Asesiad o'r Effaith ar Dreftadaeth