Relocation of slurry store at Frigan Farm, Brynteg
Caer | 01244 621 007
Conwy | 01492 581 800
​
Echdynnu llechi o ddyddodion gwaith mwynau a gwaith cysylltiedig yn Chwarel Aberllefenni
Mae Cadnant Planning Cyf wedi eu comisiynu gan D. Meredith & Sons Ltd i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a datblygiad arfaethedig yn Chwarel Aberllefenni, Aberllefenni, Pensarn, Machynlleth, SY20 9RU.
Rhoddir rhybudd bod D. Meredith & Sons Ltd yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer echdynnu llechi o ddyddodion gwaith mwynau a gwaith adfer cysylltiedig, parhau i ddefnyddio rhan o’r hen domen fel man prosesu mwynau ynghyd â gwaith cysylltiedig.
Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwigio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.
YNGLYN A'R CAIS
Mae'r cynnig yn ymwneud ag echdynnu llechi o ddyddodion mwynau mewn perthynas â Thomen Llawr y Dyffryn a'r Tomen Ddeheuol. Bydd cyfanswm o 160,000 tunnell yn cael ei symud dros gyfnod o 16 mlynedd (10,000 tunnell y flwyddyn), ond gyda’r gallu i allforio 250 tunnell y dydd dros gyfnod o 5.5 diwrnod yr wythnos i ychwanegu at y cyflenwad o agregau llechi o’r cronfeydd presennol a ganiateir. Cynigir bod yr ardal yn cael ei gweithio ochr yn ochr â'r ardaloedd gweithredol presennol tra bod cronfeydd wrth gefn ar gael o hyd.
Dogfennau cais cynllunio drafft
Ffurflen Gais
Datganiad Dylunio, Mynediad a Chynllunio
Asesiad Archeolegol a Gwerthusiad o Faterion Lleoliad
​
Trawsdoriadau Presennol ac Arfaethedig
Arolwg Topograffig
​
Gwerthusiad Ecolegol Rhagarweiniol