Tir oddi ar Heol Martin, Eglwysbach
Caer | 01244 621 007
Conwy | 01492 581 800

Codi 58 o ANHEDDAU fforddiadwy AR DIR AR RHOSDDU ROAD, WRECSAM YNGHYD Â GWAITH CYSYLLTIEDIG
Mae’r prosiect yn ymwneud ag ailddatblygu’r safle arfaethedig, sy’n cynnwys dymchwel adeiladau presennol a chodi 58 o anheddau fforddiadwy, ynghyd â darparu mynedfa newydd, ffordd fynediad fewnol a gwaith cysylltiedig ar dir ger Ffordd Rhosddu, Wrecsam.
Mae safle’r cais o fewn ffin datblygu Wrecsam ac mae’n cynnwys unedau preswyl presennol a chanolfan gofal dydd. Mae’r safle wedi’i amgylchynu’n bennaf gan eiddo preswyl, ynghyd ag ardal parc i’r de (gyferbyn â Garden Road) ac unedau masnachol/gofal iechyd (siop, fferyllfa ac uned campfa) wedi’u lleoli’n agos at y safle.
Mae’r prosiect yn cynnig dymchwel y bloc preswyl presennol ynghyd â adeiladau’r ganolfan gofal dydd, ac ail-ddatblygu’r safle drwy godi cyfanswm o 58 o anheddau fforddiadwy ynghyd â gwaith cysylltiedig.
Mae’r cynnig yn ceisio darparu mynedfa gerbydau newydd yn uniongyrchol oddi ar Ffordd Rhosddu i’r gogledd-ddwyrain ac oddi ar Garden Road i’r de. Mae dyluniad a lleoliad y mynedfeydd arfaethedig eisoes wedi cael eu trafod gyda Swyddogion Priffyrdd y Cyngor.
Mae’r cynllun arfaethedig yn dangos ddarpariaeth parcio a mannau agored cyhoeddus i’w darparu o fewn y safle.
Mae’r datblygiad arfaethedig yn darparu cymysgedd da o unedau, sef:
-
5 o anheddau dwy ystafell wely;
-
5 o anheddau tair ystafell wely;
-
1 annedd pum ystafell wely;
-
2 fynglo un ystafell wely;
-
2 fynglo dwy ystafell wely;
-
1 bynglo pum ystafell wely;
-
Bloc fflatiau A yn cynnwys cymysgedd o 16 × uned un ystafell wely a 6 × uned dwy ystafell wely;
-
Bloc fflatiau B yn cynnwys cymysgedd o 8 × uned un ystafell wely a 6 × uned dwy ystafell wely;
-
Bloc fflatiau C yn cynnwys cymysgedd o 3 × uned un ystafell wely a 3 × uned dwy ystafell wely.
Dogfennau drafft cais cynllunio
Cynlluniau
Cynllun Arfaethedig GA – Bloc 01
Cynllun Arfaethedig GA – Bloc 02
Cynllun Arfaethedig GA – Bloc 03
Cynllun Arfaethedig GA – Bloc 04
Cynllun Arfaethedig GA – Bloc 05
Cynllun Arfaethedig GA – Bloc 06
Cynllun Arfaethedig GA – Plot 11
Cynllun Arfaethedig GA – Plot 16
Cynllun Arfaethedig GA – Apt A
Cynllun Arfaethedig GA – Apt B
Cynllun Arfaethedig GA – Apt C
Priffyrdd
Coed
Cyfleustodau
Adroddiadau

