Tir oddi ar Heol Martin, Eglwysbach
Caer | 01244 621 007
Conwy | 01492 581 800
Creu parc gwyliau a hamdden newydd ar gyn gwrs golff Llangefni
Mae Cadnant Planning Cyf wedi eu comisiynu gan Hamdden Cefni Ltd i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a datblygiad arfaethedig ar gyn Gwrs Golff Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TJ.
Rhoddir rhybudd bod Hamdden Cefni Ltd yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer creu parc gwyliau a hamdden, gan gynnwys creu mynedfa newydd i gerbydau o'r B5111, codi adeilad cyfleusterau, lleoli cabannau, podiau glampio a chreu lleiniau wyneb caled a ffyrdd mewnol, ynghyd â gwaith cysylltiedig ar gyn gwrs golff Llangefni, Llangefni. .
Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwigio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.
Crynodeb o'r cais
Cynigion i ailddatblygu cyn gwrs golff gwag Llangefni i greu parc gwyliau a hamdden o ansawdd uchel, gan ddarparu llety gwyliau tymor byr a chyfleusterau hamdden cysylltiedig i ymwelwyr. Yn ogystal â llety gwyliau, mae'r cynigion yn cynnwys codi cyfleuster pentref gwyliau newydd a fydd yn cael ei ddodrefnu gyda champfa, bwyty a chaffi, pwll nofio, sawna, swyddfeydd a gofod amwynder.
Bydd y datblygiad yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystod o fathau o lety gwyliau, gan gynnwys y canlynol:
-
93 llety gwyliau dwy ystafell wely;
-
29 llety gwyliau un ystafell wely;
-
6 pod glampio; a
-
11 o leiniau carafanau a faniau gwersylla.
Mae'r cynigion yn ceisio creu parc gwyliau modern sy'n integreiddio'n dda i'r ardal gyfagos, ynghyd â chynllun tirlunio cynhwysfawr i gynnwys plannu coed newydd, gwrychoedd, blodau gwyllt a llystyfiant brodorol arall. Bydd systemau draenio cynaliadwy newydd hefyd yn cael eu creu gan gynnwys basnau draenio, a fydd hefyd yn gwella bioamrywiaeth ymhellach ac o fudd i fywyd gwyllt ledled y safle. Mae gwaith cysylltiedig hefyd yn cynnwys creu bloc toiled/cawod, creu mynediad newydd a ffyrdd mewnol, parcio ac ardaloedd storio gwastraff.
Mae'r datblygiad yn edrych i ddefnyddio'r tir gwag hwn a darparu cyfleuster twristiaeth a hamdden o ansawdd uchel, mewn lleoliad synhwyrol o ystyried y cyfleusterau hamdden presennol eraill sydd wedi'u lleoli ychydig y tu allan i Langefni, gan gynnwys Maes Ymarfer Golff a Mini Golff Môn ac Oriel Môn.
Dogfennau cais cynllunio drafft
Cynlluniau
Cynllun Arfaethedig o’r adeilad
Edrychiadau o’r adeilad arfaethedig
Draenio
Cynllun yr Ardaloedd Arfaethedig
Llwybrau Llifogydd Presennol Uwchben y Ddaear
Cynllun Draenio Arfaethedig Taflen 01
Cynllun Draenio Arfaethedig Taflen 02
Tirlunio
Cynllun Trefniant Cyffredinol y Tirlun
Adroddiad Asesiad Effaith Tirweddol a Gweledol
Ecoleg
Gwerthusiad Ecolegol Rhagarweiniol
Coed
Arboricultural Impact Assessment (AIA)Asesiad Effaith ar Goed (AIA)
Cynlluniau Asesiad Effaith ar Goed
Trafnidiaeth
Dogfennau Eraill
DWEUD EICH DWEUD
Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno sylwadau ynghylch â’r datblygiad arfaethedig wneud hynny erbyn 20 Gorffennaf 2026. Byddem yn eich annog i’w hanfon trwy e-bost i PAC@cadnantplanning.co.uk neu fel arall gallwch eu hafnon i: Cadnant Planning, 20 Tŷ Connaught, Parc Busnes Riverside, Ffordd Benarth, Conwy, LL32 8UB

