top of page
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn - Black Circle
Image1_edited.jpg

Cynllun tai fforddiadwy ar dir ger Maes y Llan, Dwygyfylchi

Mae Cadnant Planning Ltd wedi cael eu comisiynu gan Cartrefi Conwy i gynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas â datblygiad arfaethedig ar dir ger Maes y Llan, Dwygyfylchi.

 

Rydym yn hysbysu bod Cartrefi Conwy yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer codi 12 o anheddau fforddiadwy, mynedfa newydd a ffordd fewnol, gwaith draenio a thirlunio cysylltiedig a gwaith cysylltiedig eraill.

 â€‹

Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygiedig) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.

 â€‹

Cynhelir digwyddiad ymgynghori cyhoeddus ym Mhafiliwn Clwb Golff Penmaenmawr, Hen Ffordd Conwy, Penmaenmawr LL34 6RD ar y 2il o Hydrefi 2025, rhwng 2pm a 6:30pm.

Dogfennau cais cynllunio drafft

Mae'r safle’r cais yn gorwedd ar hyd Ffordd Ysguborwen i'r de.  I'r gogledd mae Ffordd Ddeuol Gogledd Cymru yr A55, i'r dwyrain Maes y Llan, a Ffynnon Wen i'r gorllewin.

​

Mae'r cynllluniau gan Cartrefi Conwy ar gyfer cynllun 100% o dai fforddiadwy yn Nwygyfylchi, Conwy. Mae safle’r cais wedi'i leoli o fewn ffin ddatblygu Dwygyfylchi, a gydnabyddir yn Brif Bentref o fewn y Cynllun Datblygu Lleol, ac mae'r safle wedi'i ddyrannu ar gyfer datblygu hyd at 15 o annedd.

​

Nod y cynllun yw darparu cymysgedd cytbwys o’r mathau o dai sy'n mynd i'r afael ag anghenion lleol a nodwyd. Mae'r cymysgedd tai arfaethedig fel a ganlyn:

 

  • 6 x Fflat 1 ystafell wely;

  • 2 x TÅ· 2 Ystafell Wely;

  • 1 x Byngalo 2 Ystafell Wely; a

  • 3 x TÅ· 3 ystafell wely

 

Byddai mynediad i'r safle yn cael ei ddarparu o Ffordd Ysguborwen, gyda mynedfa newydd i'w chreu ynghyd â ffordd fewnol a man i droi. Byddai pwynt mynediad y safle hwn yn darparu mynedfa i gerbydau a cherddwyr, a cynabyddir y gellid darparu cysylltiad llwybr troed i'r gogledd o'r safle.

 

 

Byddai darpariaeth barcio dynodedig, gardd, ardaloedd casglu biniau gyda mynediad cyfleus i nifer o fwynderau a mannau gwyrdd o fewn y safle, gan gynnwys yng nghornel ogleddol y safle sy'n cynnwys basn SuDS ac arglawdd seddi glaswellt haenog.

 

Byddai'r is-orsaf bresennol o fewn y safle yn cael ei chadw a byddai'r arhosfa fysiau wrth fynedfa'r safle yn cael ei symud i'r dwyrain o fynedfa'r safle, gan aros ar hyd Ffordd Ysguborwen.

Dogfennau cais cynllunio drafft

This consultation has ended.

9001 CMYK Gwyn.jpg
RTPI-CTPs-Logo-Screen.jpg

© 2018 Cadnant Planning. All Rights Reserved.

 

Cadnant Planning Ltd Cwmni Cofrestredig yng Nghymu a Lloegr Rhif. 07955299
Rhif TAW Cofrestredig.13274751

Hysbysiad Preifatrwydd Cwstmeriaid - cliciwch yma

© 2023 Cadnant Planning

bottom of page