Relocation of slurry store at Frigan Farm, Brynteg
Caer | 01244 621 007
Conwy | 01492 581 800
​
Codi Sied Amaethyddol yn Bryn Celli Ddu, Llanddainel
Mae Cadnant Planning Cyf wedi eu comisiynu gan Grass Converters Limited i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a datblygiad arfaethedig ar Bryn Celli Ddu, Llanddaniel, Llanfairpwll, Ynys Môn, LL61 6EQ.
Rhoddir rhybudd bod Grass Converters Limited yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer codi sied amaethyddol gyda thirlunio meddal cysylltiedig.
Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwigio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio
YNGLYN A'R CAIS
Mae’r cais yn ceisio caniatâd i godi sied amaethyddol newydd ar gyfer cadw da byw yn y fenter wledig bresennol ym Mryn Celli Ddu, Llanddaniel. Byddai'r sied arfaethedig yn cynnwys y fuches odro ym Mryn Celli Ddu, gan ddarparu'r lle angenrheidiol i anifeiliaid sydd wedi'u magu i ffwrdd o'r fferm gael eu cludo'n ôl i'r safle i'w godro pan ddônt i oed. Byddai’r sied hefyd yn darparu lle ychwanegol ar gyfer da byw, a fyddai’n gwella’r gallu i wrthsefyll yr achosion presennol o dwbercwlosis buchol ar Ynys Môn. Byddai'r sied arfaethedig yn cael ei chodi dros ardal o lawr caled presennol o fewn iard fferm bresennol, yn agos at adeiladau amaethyddol eraill a nodweddion gan gynnwys lagŵn slyri i'r gogledd.