top of page

Creu gwarchodfa natur, gan gynnwys gwaith mynediad, codi ysgubor bywyd gwyllt ac adeiladu llwybrau ar dir yn Fferm Greengates, Llanelwy

Mae Cadnant Planning Cyf wedi eu comisiynu gan Cyngor Sir Ddinbych i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a datblygiad arfaethedig ar dir yn Fferm Greengates, Ffordd Abergele, Llanelwy, LL17 0LE.


Rhoddir rhybudd bod Cyngor Sir Ddinbych yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer newid defnydd tir o dir amaethyddol i warchodfa natur newydd, sy’n cynnwys coetir llydanddail brodorol, prysgwydd (sgrwb), porfa goediog, gweirglodd blodau gwyllt, pyllau dŵr, ac ysgubor bywyd gwyllt cysylltiedig, gydag ailgyflunio mynediad oddi ar Lôn Cwttir ac adeiladu llwybrau caniataol.


Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwigio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.

YNGLYN A'R CAIS

Mae'r datblygiad arfaethedig ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i greu gwarchodfa natur newydd ar y safle.

​

 

Byddai'r warchodfa natur yn cynnwys coetir llydanddail brodorol, prysgwydd (sgrwb), porfa goediog, gweirglodd blodau gwyllt, pyllau dŵr, ac ysgubor bywyd gwyllt cysylltiedig

​

 

Byddai pyllau oedd wedi'u mewnlenwi'n flaenorol yn cael eu hadfer, a phyllau newydd yn cael eu creu gan arwain at gyfanswm o 14 o byllau ar draws y safle. Byddai ysgubor bywyd gwyllt newydd yn cael ei hadeiladu, gyda nodweddion wedi'u dylunio'n arbennig i gynnal amrywiaeth eang o fywyd gwyllt gan gynnwys adar yn nythu ac ystlumod yn clwydo.

​

 

Bydd gan y safle o leiaf 20% o orchudd canopi, gan helpu Cyngor Sir Ddinbych i gyflawni ei dargedau mewn perthynas â’u Hargyfwng Hinsawdd ac Ecolegol datganedig, a bydd yn symud y Cyngor ymhellach tuag at eu nod o ddod yn gyngor ecolegol gadarnhaol.

​

 

Byddai’r datblygiad arfaethedig hefyd yn arwain at ad-drefnu’r fynedfa ddeheuol bresennol i’r safle, sydd wedi’i lleoli oddi ar Lôn Cwttir, ac adeiladu llwybrau caniataol o fewn y safle.

DWEUD EICH DWEUD

Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno sylwadau ynghylch â’r datblygiad arfaethedig wneud hynny erbyn 14 Ebrill 2024. Byddem yn eich annog i’w hanfon trwy e-bost i PAC@cadnantplanning.co.uk neu fel arall gallwch eu hafnon i: Cadnant Planning, 20 TÅ· Connaught, Parc Busnes Riverside, Ffordd Benarth, Conwy, LL32 8UB

Diolch yn fawr!

bottom of page