top of page

gyn safle Gwaith Brics, Ffordd Melin Seiont, Caernarfon, LL55 2YL

Mae Cadnant Planning Cyf wedi eu comisiynu gan Seiont Ltd i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a datblygiad arfaethedig ar cyn safle gwaith brics, Ffordd Melin Seiont, Caernarfon, LL55 2YL.

 

Rhoddir rhybudd bod Seiont Ltd yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer creu mynedfa newydd a lleiniau gwelededd a newidiadau i Ffordd Waunfawr, creu ffordd fewnol, stopio’r fynedfa i Plas Treflan ynghyd â newid defnydd y tir ar gyfer storio cyffredinol (defnydd dosbarth B8), ardal peiriannau ‘batchio’ concrid, ardal ail-gylchu, codi adeilad ailgylchu i gynnal peiriannau, cynnal a chadw peiriannau a chadw adeilad gweithdy presennol, a gosod portacabins i gael eu defnyddio fel swyddfeydd gyda pharcio cysylltedig.

 

Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwigio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.

Bydd digwyddiad ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal yng Nghlwb Rygbi Y Morfa, Caernarfon, LL55 2YF ar Dydd Mawrth 12 Rhagfyr 2023 rhwng 3 y.p. a 6 y.h. Bydd aelodau o’r tîm ar gael i drafod y bwriad. Bydd y cyfnod Ymgynghori Cyn Cyflwyno Cais yn dechrau’n ffurfiol ar 07 Rhagfyr 2023.

YNGLYN A'R CAIS

Mae'r cais yn ceisio caniatâd ar gyfer defnydd parhaol o'r tir at ddibenion storio, swp-brosesu concrit, ailgylchu deunyddiau anadweithiol, cynnal a chadw offer peirianneg sifil ac allforio deunyddiau a chynnyrch gorffenedig ar hen safle Gwaith Brics Seiont. Mae'r cais hefyd yn ceisio ffurfioli'r llwybr cludo presennol a chreu mynedfa newydd i Heol Waunfawr a fyddai'n gwasanaethu'r defnydd arfaethedig.

 

Mae safle hen ffatri gwaith brics Seiont wedi cael ei ddefnyddio fel compownd dros dro mewn cysylltiad â phrosiect adeiladu ffordd osgoi Caernarfon i Bontnewydd ('y ffordd osgoi'), o dan ddau ganiatâd cynllunio, cyfeirnod C17/0011/19/MW a C17/0107/ 19/LL. Mae'r ardal hon yn cynnwys swyddfeydd, cyfleusterau swp-brosesu concrit symudol, cyfleusterau gweithdy peiriannau trwm, ardaloedd prosesu a storio deunyddiau a meysydd parcio cysylltiedig. Gydag adeiladu'r ffordd osgoi bron wedi'i gwblhau, mae'r cais hwn yn ceisio hwyluso defnydd addas i'r safle yn barhaol.

 

Mae'r cais hwn ar wahân i'r cais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol bwriedig ar gyfer safle gweithredu tymor byr sy’n cael ei danio gan nwy (STOR) a gynigir ar gyfer ardal gyfagos i'r cynnig hwn.

Mae'r ymgynghoriah hwn wedi dod i ben. 

bottom of page