top of page

Datblygiad tai fforddiadwy ar dir i’r gogledd o Y Garnedd, Llanfairpwll

Mae Cadnant Planning Cyf wedi eu comisiynu gan ClwydAlyn Housing Cyfyngedig a  DU Construction Cyfyngedig i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a datblygiad arfaethedig ar dir i’r gogledd o Y Garnedd, Llanfairpwll, LL61 5EX.

 

Rhoddir rhybudd bod ClwydAlyn Housing Cyfyngedig a  DU Construction Cyfyngedig yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer codi 27 o annedd fforddiadwy, creu ffordd fynedfa fewnol, dargyfeirio Llwybr Tramwy Cyhoeddus, creu bwnd tirlunio, codi ffens acwstig a gwaith cysylltiedig.

 

Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwigio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.

Bydd digwyddiad ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Neuadd Goffa Llanfairpwll, Ffordd Rhiannon, Llanfairpwllgwyngyll, LL61 5JB ar Ddydd Mercher 17eg Ionawr 2024 rhwng 4 y.p. a 7 y.h.

​

Bydd aelodau o’r tîm ar gael i drafod y bwriad. Bydd y cyfnod Ymgynghori Cyn Cyflwyno Cais yn dechrau’n ffurfiol ar Ddydd Mercher 17eg Ionawr 2024.

YNGLYN A'R CAIS

Mae'r bwriad yn ymwneud â chais am gynllun tai fforddiadwy o 27 annedd preswyl ar dir i'r gogledd o Lanfairpwll. Mae'r cais hefyd yn cynnwys creu ffordd fynediad, parcio a thirlunio cysylltiedig ynghyd â ffurfio bwnd tirlunio a ffens acwstig a dargyfeirio PRoW. Byddai'r holl anheddau'n dai fforddiadwy.

 

 

Mae’r cais hwn yn ailgyflwyniad cais cynllunio FPL/2021/231 a wrthodwyd ar 02 Mawrth 2023 ar y sail nad oedd digon o wybodaeth wedi’i darparu mewn perthynas â’r trefniadau draenio dŵr wyneb arfaethedig i ddangos na fyddai’r datblygiad arfaethedig yn cael unrhyw effeithiau andwyol nac yn creu unrhyw effeithiau niweidiol neu risg annerbyniol i’r amgylchedd dŵr.

 

Mae'r datblygiad arfaethedig bellach wedi'u ddiweddaru ac mae cytundeb ar gyfer arllwysfa dŵr wyneb i'r cwrs dŵr cyfagos, i'r de-orllewin o'r safle wedi ei gyrraedd, a fydd yn golygu darparu cysylltiad ar draws y tir cyfagos sy'n berchen i'r Cyngor Cymuned gyda'r man gollyngiad ar dir sy'n eiddo i dirfeddiannwr preifat. Byddai'r cysylltiad dŵr wyneb yn golygu gofyn am garthffos a Dŵr Cymru Welsh Water (DCWW) yn mabwysiadu'r rhwydwaith dŵr wyneb arfaethedig ar y safle.

 

Mae angen clir am dai fforddiadwy yn Llanfairpwll ar gyfer unedau un- a dwy- lofft fel unedau cymdeithasol a unedau twy- a their-llofft fel tai canolradd. Ni ellir diwallu’r angen yma o fewn amserlen resymol ar dir o fewn y ffin ddatblygu.

 

 

Dim ond tair uned fforddiadwy y disgwylir iddynt ddod ymlaen ar safle a ddyrannwyd o fewn y ffin ddatblygu ond nid oes cais cynllunio wedi ei chyflwyno ar gyfer y safle hwnnw eto.

Ystyrir bod y safle'n estyniad rhesymol i ardal adeiledig y ganolfan ac nid oes unrhyw safleoedd eraill sy’n fwy addas ar dir y tu allan ond yn union gyfagos i'r ffin ddatblygu a allai ddod ymlaen i ddiwallu'r angen hwn a adnabyddir am dai fforddiadwy mewn amserlen resymol.

 

 

Byddai'r cynnig yn darparu cymysgedd o anheddau un, dwy, tair a phedair llofft ac mae'r gymysgedd arfaethedig yn cael ei chefnogi gan dîm Strategaeth Tai y Cyngor.

 

 

Mae agosrwydd y safle at goridor yr A55 yn gofyn am ystyried effeithiau posibl ar amwynder preswyl deiliaid yr anheddau arfaethedig o safbwynt sŵn ac ansawdd aer. I gyd-fynd â'r cais mae Asesiad Effaith Sŵn ac Asesiad Ansawdd Aer, y mae'r ddau adroddiad yn dod i'r casgliad na fyddai unrhyw effeithiau annerbyniol i amwynder preswyl deiliaid yr anheddau arfaethedig o lygredd sŵn a aer.

DWEUD EICH DWEUD

Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno sylwadau ynghylch â’r datblygiad arfaethedig wneud hynny erbyn 14 Chwefror 2024.  Byddem yn eich annog i’w hanfon trwy e-bost i PAC@cadnantplanning.co.uk neu fel arall gallwch eu hafnon i: Cadnant Planning, 20 TÅ· Connaught, Parc Busnes Riverside, Ffordd Benarth, Conwy, LL32 8UB.

Diolch yn fawr!

bottom of page