top of page

Datblygiad preswyl o 30 o dai fforddiadwy yn Llandegfan

Mae Cadnant Planning Cyf wedi eu comisiynu gan ClwydAlyn Housing Limited a DU Construction Limited i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a datblygiad arfaethedig ar dir ger Gwel y Llan, Llandegfan.

 

Rhoddir rhybudd bod ClwydAlyn Housing Limited a DU Construction Limited yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer codi 30 o dai fforddiadwy, newidiadau i fynedfa presennol, creu mynedfa a ffordd fynediad fewnol ynghyd â gwaith cysylltiedig a thirlunio.

 

Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwigio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio

Nodir Llandegfan fel Pentref Gwledig yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Mae safle’r cais y tu allan, ond yn cyffinio â ffin datblygu Llandegfan. Gan fod pob annedd yn cael ei chynnig fel unedau fforddiadwy, gellir ystyried y datblygiad fel safle eithriad.

 

Mae’r datblygiad arfaethedig yn ymwneud â chodi cynllun tai fforddiadwy o 33 o anheddau fel safle eithriad ar dir sy’n cyffinio’n uniongyrchol â ffin datblygu Llandegfan.

 

Byddai’r anheddau fforddiadwy arfaethedig yn cynnwys y cymysgedd canlynol:

• pedair fflat un ystafell wely;

• 13 o dai dwy ystafell wely;

• wyth tÅ· tair ystafell wely;

• Un tÅ· pedair ystafell wely;

• Pedwar byngalo dwy ystafell wely.

 

Byddai gan bob annedd le parcio i’r tu blaen/ochr gydag ardal fach o ardd flaen/cefn gyda’r brif ardd wedi’i lleoli yn y cefn. Byddai patio a sied gardd yn cael eu darparu ym mhob plot.

 

Byddai mynediad cerbydau i’r datblygiad arfaethedig yn cael ei sicrhau o ystâd breswyl Gwêl y Llan a Gwêl Eryri, gyda ffordd fynediad fewnol a phalmentydd i gerddwyr yn y safle yn cysylltu’r datblygiad arfaethedig â’r ddwy ystâd breswyl bresennol.

 

Byddai ardal o le agored yn cael ei darparu yng nghornel ogleddol y safle a fyddai’n darparu cyfanswm arwynebedd o 1,492 metr sgwâr. Byddai llwybr troed yn cael ei ddarparu ar draws yr ardal o dir agored a byddai’r Hawliau Tramwy Cyhoeddus presennol yn cael eu dargyfeirio i redeg ar hyd y palmentydd mewnol a ddarperir yn y safle, yna’n croesi’r ardal o dir agored a thrwy ardal o wrych a wal gerrig bresennol, y byddai angen eu tynnu, er mwyn i gerddwyr allu cysylltu â’r Hawliau Tramwy Cyhoeddus presennol sy’n rhedeg ar hyd ffin gogledd-ddwyreiniol y safle.

 

Cynigir lleoli basn dŵr wyneb yn y cae i’r gogledd o brif ran safle’r cais, fydd yn cael ei gysylltu â’r cynllun preswyl arfaethedig gan bant cludo dwfn.

This consultation has ended. 

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben.

bottom of page