Relocation of slurry store at Frigan Farm, Brynteg
Caer | 01244 621 007
Conwy | 01492 581 800
​
Creu gwarchodfa natur a chynefin, gan gynnwys adeiladu llwybr caniataol a gwaith peirianyddol i greu man gwylio wedi ei godi ar dir yn Fferm Green gates, Llanelwy
Mae Cadnant Planning Cyf wedi eu comisiynu gan Cyngor Sir Ddinbych i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a datblygiad arfaethedig ar dir ger Green Gates Farm, Ffordd Abergele, Llanelwy, LL17 0LE.
Rhoddir rhybudd bod Cyngor Sir Ddinbych yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer dymchwel adeiladau presennol, newid defnydd tir o dir amaethyddol i warchodfa natur newydd a chreu cynefinoedd yn cynnwys adfer pyllau presennol, creu pyllau newydd, creu ardal wlyptir ger dau gwrs dŵr bach. a chreu ardaloedd o goetir a chynefin glaswelltir, adeiladu llwybr caniataol a gwaith peirianyddol i greu man gwylio wedi’i godi ynghyd â gwaith cysylltiedig.
Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwigio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.
YNGLYN A'R CAIS
Mae'r datblygiad arfaethedig yn rhan o gam III o greu cynefin yn Fferm Green Gates sy'n cael ei arwain gan Gyngor Sir Ddinbych.
​
Roedd cam cyntaf y datblygiad yn cynnwys sefydlu Meithrinfa Goed Sirol. Roedd cam dau yn cynnwys creu gwarchodfa natur 31 erw sy'n destun cais cynllunio ar wahân a gyflwynwyd yn ddiweddar i'r Awdurdod Cynllunio Lleol.
​
Mae'r datblygiad arfaethedig ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i greu gwarchodfa natur newydd ar y safle, gyda mynediad i'r safle at ddefnydd cyhoeddus i ran ogleddol y safle. Byddai'r cynnig yn cynnwys llwybr caniataol yn arwain at lwyfan gwylio yn rhoi golygfa dros y warchodfa natur.
​
Byddai'r ffermdy a'r adeiladau fferm adfeiliedig ar y safle yn cael eu dymchwel a byddai'r llain galed yn cael ei defnyddio at ddiben arall er mwyn darparu maes parcio a chreu cynefinoedd.