top of page
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn - Black Circle

Cynlluniau i wella llety a chyfleusterau twristiaid yn Forest Holidays, Beddgelert i ddarparu gwelliannau cyffredinol fel rhan o uwchgynllun hamdden ymwelwyr ehangach ar gyfer Beddgelert

Mae Cadnant Planning Ltd wedi cael eu comisiynu gan Forest Holidays i gynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio am gais Cynllunio (PAC) mewn perthynas â datblygiad arfaethedig yn Forest Holidays, Beddgelert, Caernarfon LL55 4UU.


Rydym yn rhoi rhybudd bod Forest Holidays yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer cynlluniau i wella llety a chyfleusterau i dwristiaid er mwyn sicrhau gwelliannau cyffredinol i'r safle, drwy ildio 85 o safleoedd carafanau a gwersylla a gosod 22 o gabanau gwyliau hunangynhwysol, hunanarlwyo gydol-y-flwyddyn yn ychwanegol, a chodi adeilad derbynfa a chaffi newydd a gwelliannau cyffredinol o ran plannu tirwedd ychwanegol a gwella bioamrywiaeth,  ynghyd â gwaith cysylltiedig.


Cyn cyflwyno'r cais ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygiedig) 2016, bydd y cynlluniau yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.

YNGLYN A'R CAIS

 

Mae’r cais yn ymwneud â chais llawn am gynigion i wella llety a chyfleusterau twristiaid yn Forest Holidays, Beddgelert i gyflawni gwelliannau cyffredinol i’r safle trwy ildio 85 o leiniau carafan a gwersylla am 22 safle ar gyfer cabanau gwyliau hunangynhaliol pellach, a chodi adeilad derbynfa a chaffi newydd a gwelliannau cyffredinol i fioamrywiaeth a gwella’r dirwedd ychwanegol.

 

Mae Forest Holidays yn safle llety twristiaeth presennol ar gyrion pentref Beddgelert, yn darparu cymysgedd o feysydd carafanau teithiol a gwersylla, ynghyd â chabanau pren.  Mae Forest Holidays yn cynnig ffordd unigryw ac arbennig o fwynhau'r goedwig a helpu pobl i ailgysylltu â natur. Mae'r tir yn eu safleoedd yn cael ei reoli ar gyfer cadwraeth ac i greu mannau ym myd natur i bobl aros. Mae Forest Holidays yn cynnig cyfleoedd i bobl ddarganfod rhyfeddodau byd natur a helpu pobl i brofi ac ailgysylltu â choedwigoedd, gyda'u gilydd a gyda chymunedau gwledig.

 

Mae Forest Holidays Beddgelert yn un o 13 o safleoedd sy'n cael eu rhedeg gan Forest Holidays ledled y DU. Mae Forest Holidays yn creu profiadau o fewn y goedwig i’r teulu cyfan ac yn annog gwesteion i anturio yn y cymunedau gwledig yn yr ardaloedd y mae eu safleoedd wedi’u lleoli.

 

Mae'r cais yn Forest Holidays ym Meddgelert yn ffurfio rhan o uwchgynllun hamdden ymwelwyr ehangach ar gyfer Beddgelert, a baratowyd ar y cyd gan yr ymgeisydd, Forest Holidays a Roberts Group, perchnogion Cae Du a maes gwersylla Cae Canol ym Meddgelert. Mae'r prif gynllun hamdden i ymwelwyr yn cynnwys dau gais cynllunio ar wahân; yr cais yma yn Forest Holidays, a'r ail gais yn Cae Du/Cae Canol gan Roberts Group.

 

Nôd yr uwchgynllun hamdden i ymwelwyr fyddai datblygu a gwella’r ddarpariaeth llety twristiaeth ym mhentref Beddgelert drwy ehangu’r ddarpariaeth o gabanau gwyliau yn Forest Holidays, yn lle meysydd carafanau teithiol a gwersylla presennol, a gwella ac ehangu’r ddarpariaeth o leiniau carafanau teithiol a gwersylla yn Cae Du a Cae Canol. Byddai hyn yn sicrhau na fyddai ehangu'r cabanau gwyliau yn Forest Holidays yn arwain at golled gyffredinol o feysydd carafanau teithiol a gwersylla yn y pentref, gan y byddai lleiniau ychwanegol yn cael eu cynnig ar faes gwersylla Cae Du a Cae Canol.

 

Byddai'r uwchgynllun hamdden i ymwelwyr hefyd yn ceisio gwella ac uwchraddio'r llwybr aml-ddefnydd sy'n rhedeg ochr yn ochr â Forest Holidays, i Beddgelert.


Mae'r cynigion ar y ddau safle yn ceisio cyflawni gwelliannau amgylcheddol sylweddol trwy dirblannu a gwella bioamrywiaeth.
 

DWEUD EICH DWEUD

Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno sylwadau ynghylch â’r datblygiad arfaethedig wneud hynny erbyn 17 Mawrth 2025.  Byddem yn eich annog i’w hanfon trwy e-bost i PAC@cadnantplanning.co.uk neu fel arall gallwch eu hafnon i: Cadnant Planning, 20 TÅ· Connaught, Parc Busnes Riverside, Ffordd Benarth, Conwy, LL32 8UB.  

 

Bydd digwyddiad ymgynghori cyhoeddus yn cael ei gynnal yng Nghwesty’r Prince Llewelyn, Beddgelert ar ddydd Llun 24ain Chwefror rhwng 4yp a 7yh

Diolch yn fawr!

9001 CMYK Gwyn.jpg
RTPI-CTPs-Logo-Screen.jpg

© 2018 Cadnant Planning. All Rights Reserved.

 

Cadnant Planning Ltd Cwmni Cofrestredig yng Nghymu a Lloegr Rhif. 07955299
Rhif TAW Cofrestredig.13274751

Hysbysiad Preifatrwydd Cwstmeriaid - cliciwch yma

© 2023 Cadnant Planning

bottom of page