Tir oddi ar Heol Martin, Eglwysbach
Caer | 01244 621 007
Conwy | 01492 581 800
​
Datblygu cyfadeilad hamdden newydd yng Nghanolfan Gwyliau Golden Gate, Towyn
Mae Cadnant Planning Cyf wedi eu comisiynu gan SF Parks Cyf i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a datblygiad arfaethedig ar Golden Gate Holiday Centre, Towyn Road, Towyn, Abergele, LL22 9HU.
Rhoddir rhybudd bod SF Parks Cyf yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer datblygu cyfadeilad hamdden o ansawdd uchel sy'n darparu gweithgareddau hamdden dan-dô ar ffurf ali fowlio, bar ar dô, arcêd estynedig, adleoli swyddfeydd derbynfa a gweinyddol er mwyn canoli gweithrediad a phrofiad cwsmeriaid yng Nghanolfan Wyliau Golden Gate ynghyd â gwaith cysylltiedig.
Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwigio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.
YNGLYN A'R CAIS
Mae'r cynnig yn cynnwys datblygu canolfan hamdden o'r radd flaenaf a allai gael ei defnyddio gan ymwelwyr sy'n aros yng Nghanolfan Wyliau Golden Gate yn ogystal ag aelodau'r cyhoedd.
Byddai'r datblygiad yn cynnwys cyfadeilad hamdden o ansawdd uchel yn darparu gweithgareddau hamdden dan do ar ffurf ali fowlio 6-lôn, bar to, arcêd estynedig, adleoli derbynfa a swyddfeydd gweinyddol er mwyn canoli gweithrediad a phrofiad y cwsmer yn Canolfan Wyliau Golden Gate.
Rhoddwyd caniatâd yn flaenorol ar gyfer addasu, ymestyn ac adnewyddu Adeilad y Clwb i ddarparu pwll nofio a wal ddringo yn Golden Gate hefyd. Byddai'r datblygiad arfaethedig yn gorgyffwrdd â'r wal ddringo a ganiatawyd yn flaenorol, na fyddai'n cael ei hadeiladu. Mae’r man chwarae dan do i blant a’r pwll nofio eisoes yn eu lle gyda’r caniatâd wedi’i weithredu.
Byddai’r cyfadeilad hamdden arfaethedig yn arwain at golli 12 o leiniau carafanau sefydlog yn Golden Gate, gan leihau nifer cyffredinol y lleiniau o 512 i 500.