top of page

Ail-leoli Campws Bangor Coleg Menai i DŶ Menai, Parc Menai

Mae Cadnant Planning Cyf wedi eu comisiynu gan Grŵp Llandrillo-Menai i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a datblygiad arfaethedig ar Tŷ Menai, Ffordd Penlan, Parc Menai, Bangor, Gwynedd, LL57 4HJ.

 

Rhoddir rhybudd bod Grŵp Llandrillo-Menai yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer newid defnydd adeilad o Ddefnydd Dosbarth B1 (swyddfa) i Ddefnydd Dosbarth D1 (sefydliadau di-breswyl), ynghyd a ffurfio ffordd, llecynnau gollwng a chodi ar gyfer bysiau, llwybrau i gerddwyr a thirlunio cysylltiedig..

 

Cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwigio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.

Ynglyn â'r cais cynllunio

Mae'r cais cynllunio drafft hwn yn ymwneud â dyhead Grŵp Llandrillo-Menai (GLlM) i greu parth dysgu gydol oes a chanolfan ragoriaeth i'r diwydiannau creadigol ym Mharc Menai i ddiwallu anghenion dysgwyr a chyflogwyr yng ngogledd orllewin Cymru yn y dyfodol.

 

Mae'r weledigaeth yn cynnwys adleoli Campws Bangor Coleg Menai o safle presennol Ffordd Ffriddoedd a Friars sydd wedi dyddio ac sydd angen gwaith adnewyddu ac uwchraddio sylweddol.

 

Byddai'r prosiect yn dwyn ynghyd yr holl adrannau a swyddogaethau gweinyddol Coleg Menai sydd wedi'u lleoli ym Mangor. Byddai hefyd yn cydgrynhoi darpariaeth diwydiannau creadigol y Grŵp, i ddarparu Canolfan Ragoriaeth yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol gyda chyrsiau yn amrywio o dechnoleg celf a cherddoriaeth, i ddylunio gemau a chynhyrchu teledu i gyd ar gael ar yr un safle.

 

Tynnwyd cais blaenorol a oedd yn cynnwys Tŷ Menai a safle cyfagos Llwyn Brain yn ôl ar ôl derbyn Tystysgrif Defnydd Cyfreithlon ar gyfer y defnydd arfaethedig Llwyn Brain at ddefnydd busnes sy’n gysylltiedig â darpariaeth ‘Busnes @ LlandrilloMenai’ ac Adran Gwasanaethau Corfforaethol GLlM. Cadarnhaodd hyn nad oedd angen caniatâd cynllunio ar gyfer y defnydd arfaethedig o Llwyn Brain fel rhan o adleoli Campws Bangor Coleg Menai i Barc Menai. Felly er bod Llwyn Brain yn rhan o'r prosiect adleoli cyffredinol, nid yw'n rhan o'r cais cynllunio hwn.

 

O ganlyniad i faint y newidiadau i'r cais cynllunio gwreiddiol, penderfynwyd tynnu'r cais hwnnw yn ôl ac ailgyflwyno cais diwygiedig i adlewyrchu'r cynnig diwygiedig yn gywir.

bottom of page